Skip to main content
English | Cymraeg

Emma Coates

Ffederasiwn y Cymdeithion

Pennaeth Ysgol Gynradd Llanhari yn Rhondda Cynon Taf yw Emma Coates. Mae hi wedi’i secondio i Gonsortiwm Canolbarth y De (CCD) fel arweinydd strategol arweinyddiaeth rhan-amser. Mae Emma wedi gweithio mewn amryw o ysgolion yng Nghymru ac yn rhyngwladol gan gynnwys Ysgol Gynradd Trerobart ac Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdre yn Rhondda Cynon Taf, ac Ysgol Ogunu yn Nigeria. Mae gan Emma brofiad hefyd fel Arolygydd Cymheiriaid.

Fel Cydymaith mae Emma wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau ac ardaloedd o waith gan gynnwys cyd-ysgrifennu Ein Galwad i Weithredu, arwain ar sioeau teithiol y comisiwn a chyfrannu at ddigwyddiadau rhyngwladol gyda chydweithwyr yn Addysg yr Alban a’r Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon. Mae Emma hefyd wedi hwyluso hyfforddiant ar gyfer ail garfan Cymdeithion, mae’n gydlynydd rhaglen hyfforddi ac mae wedi cymryd rhan yn banel cymeradwyo’r Academi Arweinyddiaeth. Mae Emma yn frwdfrydig i barhau i greu cyfleoedd i’r Cymdeithion ddatblygu eu rôl yn y system addysg ehangach.

“Mae fy rôl fel Cydymaith wedi fy ngalluogi i ymestyn fy rhwydwaith o gyfoedion a gwneud ffrindiau newydd, y bydd llawer ohonynt yn ffrindiau am oes!”

Mae Emma’n mwynhau gwnïo a phobi ac mae hyd yn oed wedi gwneud ychydig o gacennau priodas! Yn ystod y cyfnod clo datblygodd gariad am arddio ac erbyn hyn mae ganddi ei rhandir bach a thŷ gwydr ei hun. Mae hi hefyd yn mwynhau cefnogi ei phentref yn ei rôl fel Cynghorydd Cymuned.

Twitter icon @llanhariprimary

Llanhariprimary.com

Emma Coates

Ffederasiwn y Cymdeithion

Gweld y Cyfan
Gayle Shenton

Ffederasiwn y Cymdeithion

Jayne Woolcock

Ffederasiwn y Cymdeithion

Rhian Milton

Ysgrifenyddiaeth, Ffederasiwn Cysylltiedig