English | Cymraeg

Clive Williams

Cydymaith Alwmni

Pennaeth Ysgol Gymraeg Aberystwyth yw Clive Williams gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Mae Clive yn gynghorydd ysgol brofiadol, yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn ac yn rhoi cymorth i bedair ysgol yng Ngheredigion, gan eu cefnogi i godi safonau a gwella arweinyddiaeth.

Fel Cydymaith yn garfan 1 arweiniodd Clive ar gyflwyno sioeau teithiol y comisiwn a symposia rhyngwladol ledled Cymru. Ynghyd â chyd-Gydymaith, Christine Jackson, Clive dyluniodd a hwylusodd brofiadau dysgu ar-lein ar gyfer carfan 3. Mae Clive yn cyfrannu’n rheolaidd at Pen-i-Ben, lle lles wythnosol yr Academi Arweinyddiaeth i benaethiaid. Mae Clive yn angerddol am arweinyddiaeth ac yn teimlo mai arweinyddiaeth gadarn yw’r dull mwyaf effeithiol o sicrhau’r safonau a’r ddarpariaeth orau bosibl. Hoffai weld yr Academi Arweinyddiaeth yn datblygu i fod y ‘lle i fynd’ ar gyfer ymchwil berthnasol ac arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pob arweinydd addysgol yng Nghymru.

Clive Williams

Cymdeithion Alwmni

Gweld y Cyfan
Trefor Jones

Cydymaith Alwmni

Tania Rickard

Cydymaith Alwmni

Sarah Coombes

Cydymaith Alwmni