Newyddion

Diweddariad

Mae’n bleser mawr gan Bwrdd y Cyfarwyddwyr croesawu Mrs Tegwen Ellis fel Prif Weithredwr newydd yr Academi Arweinyddiaeth. Mae Tegwen yn cymryd y rôl gan Mr Huw Foster Evans, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ers sefydlu’r Academi Arweinyddiaeth. Mae’r Bwrdd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Tegwen, ac yn dymuno’n dda i Huw wrth iddo ymgysylltu â heriau newydd.

Myfyrdod personol Pennaeth yn Tseina – Gwers o ‘Blog Geiriau Doethineb’

Gwers Rhif 1: Sylweddoli bod y sefyllfa yn ddifrifol ac yn parhau i fod.

Gwers Rhif 2: Cadwch at yr hyn rydych chi’n gyfarwydd.

Gwers Rhif 3: Peidiwch ag anghofio eich egwyddorion allweddol addysgeg.

Gwers Rhif 4: Peidiwch â chymryd yn ganiataol! Cynllunio, cynllunio a chynllunio eto

Gwers Rhif 5: Cadwch hi’n Syml

Gwers Rhif 6: Rhannwch wybodaeth gyda rieni

Gwers Rhif 7: Cadwch drefn arferol a chynnal cymaint o ‘normalrwydd’ â phosib

Gwers Rhif 8: Cefnogwch eich hathrawon gydag hyfforddiant ac unrhyw beth arall sydd ei angen      arnyn nhw – ar-lein ac oddi ar-lein!

Gwers Rhif 9; Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywfaint o brotocolau ar-lein a rheolau ar gyfer negeseuon ac e-byst.

Gwers Rhif 10: Gofalwch am eich lles eich hun ac eraill!

Ar hyn o bryd mae Andrea yn Is-Bennaeth Ysgol Ganol Jiahui Oak ac yn Bennaeth Academaidd yn Ysgol Frenhinol Dalian, Ysgol Uwchradd gysylltiedig y Campws. Darllenwch ei blog llawn yma

Datganiad gan Gadeirydd y Bwrdd

Mae ein penderfyniad i ohirio ein holl weithgareddau oherwydd COVID-19 wedi bod yn ymateb i ymbellhau cymdeithasol ac arwahanrwydd hanfodol. Rydym yn ymwybodol y bydd ein cymdeithion a’r rhanddeiliaid nawr yn wynebu heriau anarferol yn yr ysgol wrth ofalu am staff, disgyblion bregus a’r disgyblion hynny y mae eu rhieni / gofalwyr ar y rheng flaen wrth fynd i’r afael â’r Pandemig. Yn ystod yr amser hwn rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi arweinwyr yn y sector addysg.

Mae tîm yr Academi Arweinyddiaeth wedi symud i weithio gartref, ond maent yn parhau i fod yn weithredol ar e-bost post@agaa.cymru neu ar y ffon 07784 237121. Os hoffech chi rannu eich profiadau,  sylwadau a chyngor gan eraill, neu rannu eich cyngor eich hun yn gyffredinol trwy rwydweithiau’r Academi Arweinyddiaeth, rhowch wybod i ni.

Mae ein meddyliau gyda chi i gyd ar yr adeg anodd hon.

Cadwch yn ddiogel

Dr Sue Davies
Cadeirydd

Pam Gwlad y Basg?

Dyna’r cwestiwn a ofynnwyd i mi pan esboniais y byddwn i ffwrdd o’m dwy ysgol am wythnos ym mis Ionawr, er mwyn teithio i Wlad y Basg gyda’r Academi Arweinyddiaeth. ‘Pam mynd i Wlad y Basg?’ holodd fy staff a llywodraethwyr. Roedd y disgyblion yn y gwasanaeth eisiau gwybod ‘beth sydd ’na yng Ngwlad y Basg’, a rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n holi ‘lle’n union mae Gwlad y Basg?!’ fy hun. Gyda chyn lleied o wybodaeth felly, trois at fy Mac i wneud rhywfaint o ymchwil sydyn.

Y penawdau

  • Mae llywodraeth Gwlad y Basg wedi buddsoddi’n helaeth mewn addysg. Pe bai’r rhanbarth yn cael ei gyfrif fel gwlad, dim ond Denmarc ac Awstria fyddai â lefel gwariant uwch fesul disgybl yn Ewrop.
  • Mae tua hanner ysgolion Gwlad y Basg yn gymysgedd o rai cyhoeddus a phreifat, lle mae’r wladwriaeth yn talu’r rhan fwyaf o’r cyllid ond lle mae disgwyl i rieni gyfrannu hefyd.
  • Dywed gweinidog addysg Gwlad y Basg fod cysylltiad cryf rhwng ymrwymiad i addysg a hunaniaeth y genedl. “Mae addysg yn allweddol i gadw’n diwylliant yn fyw” meddai.

Ac i’r rheini ohonoch, fel fi, sy’n meddwl lle’n union mae Gwlad y Basg… dyma’r map.

Graffiau’r llywodraeth

Deg awr ar ôl glanio yn Bilbao, dyma fi a’m cydweithwyr yn canfod ein hunain yng nghrombil swyddfeydd cyngor y ddinas. Wedi gair o groeso gan y cyfarwyddwr, roedd yr hyn a glywsom am effaith y polisi ar yr iaith Fasgeg yn arbennig yn galonogol.

Mae’n cynnig tri model ieithyddol; A Addysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg a mymryn o Fasgeg; B 50:50 Sbaeneg: Basgeg a D (ffaith sydyn i chi: does dim llythyren ‘C’ yn yr iaith Fasgeg) addysg cyfrwng Basgeg ac ychydig iawn o Sbaeneg. Gwelwyd newid dramatig yn y rhanbarth dros 30 mlynedd, gyda chanran y rhieni a ddewisodd ysgolion model D wedi cynyddu o 15.9% ym 1986 i 66.9% erbyn 2017.

Sut aethon nhw ati?

Isod, rydw i wedi rhestru’r uchafbwyntiau i mi. Mae’n amhosib nodi popeth a ddysgais mewn blog mor gryno, ond rhaid cofio bod llawer o’r mentrau a drafodwyd ond yn bosib ag arian gan y llywodraeth. 

  • Cynllun strategol cynnar o ailgyfeirio athrawon sy’n siarad Basgeg er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i addysgu mewn ardaloedd â sgiliau Basgeg gwan.
  • Hyfforddiant iaith sabothol dwy flynedd i bob athro.
  • Rhaglen ddynodedig y llywodraeth i hyrwyddo’r syniad o ‘Fasgegeiddio’ awyrgylch yr ysgol (NOLEGA) sy’n cynnwys canolfannau preswyl am gyfnod byr; grantiau i ysgolion hyrwyddo byd y theatr; perfformio caneuon traddodiadol; cynlluniau cyfnewid rhwng ysgolion o ardaloedd sosioieithyddol gwahanol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Fasgeg ymhlith disgyblion a chystadlaethau a gwobrau blynyddol am ysgrifennu rhyddiaith, barddoniaeth ac areithyddiaeth.

Ond beth am farn y plant?

Dyma pryd y daeth y cymariaethau (a’r problemau) rhwng Cymru a Gwlad y Basg i’r amlwg. Roeddem yn ffodus o ymweld â phum ysgol yng Ngwlad y Basg, yn amrywio o rai cyhoeddus i breifat, iau ac uwchradd, oll yn darparu model ieithyddol D yn eu cymunedau. Pan ofynnwyd dau gwestiwn syml, yr un ateb gawson ni gan bob plentyn fwy neu lai:

 “Ydych chi’n siarad Basgeg gartref?” Yr ateb unfrydol oedd “nac ydw”, ac mai’r Sbaeneg oedd y dewis iaith wrth siarad â theulu a ffrindiau. 

Fodd bynnag, wrth ofyn “ai Basgiad neu Sbaenwyr ydych chi?” yr ateb hollol unfrydol oedd… “Basgiaid!”

Sy’n arwain at ffactor allweddol iawn i’w ystyried – y ffaith nad yw cymhwysedd neu allu ieithyddol yn sicrhau defnydd o’r iaith. A bod defnyddio iaith yn dibynnu ar ffactorau eraill, yn enwedig faint o alw sydd ymhlith y cyhoedd. Heb rieni rhugl sy’n defnyddio’r iaith ar yr aelwyd, yr oll gall ysgolion ei wneud (a hynny ar gryn gost) yw creu siaradwyr ail iaith cymwys, sy’n eilaidd i oroesiad yr iaith Fasgeg.

I gloi

Roedd cyfansoddiad Sbaen ym 1978 yn datgan fod dyletswydd ar Sbaenwyr i wybod Sbaeneg. Ond hefyd, ychwanegodd y gallai pob rhanbarth ddatgan ei iaith swyddogol ei hun, gan awgrymu hawl y cymunedau hynny i reoleiddio’r defnydd o’r iaith honno. Does dim dwywaith fod rhanbarth ymreolaethol Gwlad y Basg wedi manteisio ar yr hawl hwn a chyflawni pethau, gan drawsnewid gallu ieithyddol ei gweithlu a newid shifft ddiwylliannol ei dinasyddion i gofleidio iaith a threftadaeth y Fasgeg.

Cyflawnwyd y gwaith hwn gan genhedlaeth a ddioddefodd ormes ieithyddol a diwylliannol dan law Sbaen oes Franco. Amser a ddengys a fydd y genhedlaeth newydd yn mynnu hawliau ieithyddol â’r fath arddeliad. A fyddan nhw’n rhannu brwdfrydedd eu rhieni dros eu mamiaith neu a fydd eu hunaniaeth yn cyd-fynd â’r gymuned fyd-eang mewn byd sy’n prysur grebachu?

Llun olaf

Fe wnaethon ni ddefnyddio llawer o drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod ein hymweliad.  Fe dynnais i’r llun hwn ar fy niwrnod cyntaf yng Ngwlad y Basg, ac roedd hi’n olygfa gyffredin iawn. Criw o blant yn eu harddegau ar y ffordd i’r ysgol. Roedd yn fy atgoffa i o’r athronydd Americanaidd John Dewey a ddywedodd The most important attitude that can be found is the desire to go on learning.”  Heb os, roedd y Basgiaid ifanc a welais yn ymgorffori’r agwedd hon, yn union fel yr arbenigwyr a gwrddais oedd yn awyddus i ddysgu am ein harferion gorau ninnau ’nôl yng Nghymru. Fel cyd-ymdaith yr Academi Arweinyddiaeth, rwy’n gobeithio defnyddio’r hyn a ddysgwyd gan system addysg Gwlad y Basg er mwyn helpu i lywio ein syniadau ni hefyd.

Richard Monteiro – Pennaeth Ffederasiwn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor

Chwefror 2020

Datganiad i’r Wasg

Mae’n bleser gan Fwrdd yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol gyhoeddi bod Mrs Tegwen Ellis wedi’i phenodi i fod yn Brif Weithredwr newydd. Ar hyn o bryd, Mrs Ellis yw’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrwydd Ansawdd yn yr Academi Arweinyddiaeth a chyn hynny roedd hi’n bennaeth yn Ysgol Cynwyd Sant ym Maesteg.

Dywedodd Dr Sue Davies, Cadeirydd y Bwrdd, ‘Rwy’n falch iawn bod Mrs Ellis wedi’i phenodi. Edrychaf y Bwrdd a minnau ymlaen at weithio gyda hi gan ein bod gyda’n gilydd yn mynd â’r Academi Arweinyddiaeth ymlaen ar gam nesaf ei ddatblygiad cyffrous. ‘

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ‘Hoffwn groesawu Tegwen Ellis i rôl Prif Swyddog Gweithredol yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Daw â gwybodaeth eang gyda hi ac mae wedi bod yn allweddol yn natblygiad yr Academi Arweinyddiaeth hyd yn hyn. Rwy’n siŵr y bydd Tegwen yn helpu i lywio’r Academi ymlaen, gan gefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau arwain i helpu i wneud Cymru’r lle gorau i fod yn arweinydd addysgol.

‘Hoffwn hefyd ddiolch i Huw Foster Evans am yr ymrwymiad a’r ymroddiad y mae wedi’i ddangos dros yr 20 mis diwethaf. Cynorthwyodd i sefydlu’r Academi ac mae wedi darparu cefnogaeth i gynifer yn y flwyddyn gyntaf o weithredu. ’

Dywedodd Mrs Ellis ‘Rwy’n falch ac yn freintiedig fy mod wedi cael y cyfle gwych hwn i arwain rhan mor bwysig o’r dirwedd addysg esblygol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb sydd â rôl i’w chwarae wrth wneud Cymru yn lle hyd yn oed yn fwy cyffrous i fod yn arweinydd addysgol. ’

Bydd Mrs Ellis yn ymgymryd â’i rôl newydd yn ffurfiol ar 1 Ebrill 2020.

Ydych chi eisiau ymuno â’r Academi Arweinyddiaeth?

Yma yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol rydyn ni’n edrych ymlaen yn barod at yr hyn sydd gan 2020 ar ein cyfer ac at apwyntio ein grŵp diweddaraf o Gymdeithion. Hwn fydd ein trydydd carfan ac fe fyddan nhw’n ymuno â 21 o Gymdeithion eraill o bob rhan o Gymru i fanteisio ar brofiadau a chyfleoedd i ddysgu am arweinyddiaeth a fydd yn eu harfogi ar gyfer gofynion y rôl gyffrous a heriol yma.

Ein Cymdeithion yw curiad calon yr Academi Arweinyddiaeth; nhw sy’n darparu ein gallu yn y system ehangach; maent yn eistedd ar ein paneli sy’n gwneud penderfyniadau ac yn darparu’r arweinyddiaeth sy’n angenrheidiol i ni yn y cyfnod eithriadol o gyffrous yma yn hanes addysg yng Nghymru. Yn anad dim, rhaid iddynt allu gweithredu yn y rhyng-gysylltiad yna rhwng polisi ac ymarfer – gan siarad â’r llywodraeth ac arbenigwyr â hyder a dilysrwydd yn rhinwedd eu profiad ymarferol o arwain ysgolion. Elfen arall o rôl y Cymdeithion yw sicrhau fod y sector addysg drwyddi draw yn teimlo cysylltiad â’r Academi ac yn deall ei gwerthoedd a’i hegwyddorion. Mae gan Gymru draddodiad hir a nodedig o feithrin addysgwyr rhagorol sydd wedi cyfrannu at lunio a diffinio ein cenedl, a thrwy waith ein Cymdeithion rydyn ni nawr yn galluogi arweinwyr ein hysgolion i rannu eu profiadau o arwain ysgolion effeithiol ar lwyfan cenedlaethol.

Un o’r heriau sy’n wynebu’r Academi yw sicrhau bod ein Cymdeithion yn cynrychioli pob maes, sector a rhanbarth. Wrth ffurfio ein trydydd carfan mae gennym ddiddordeb penodol mewn apwyntio Cymdeithion o ysgolion arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion, ysgolion pob oed, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ysgolion uwchradd yn ogystal ag ysgolion o ardaloedd daearyddol penodol. Mae hyn yn angenrheidiol os yw’r Academi am hawlio bod yn gorff gwirioneddol genedlaethol sy’n gallu gwrando ar ymarferwyr arweinyddiaeth a dylanwadu ar ymarfer arweinyddiaeth ar draws amrywiaeth mor eang â phosib o gyd-destunau. Nid tasg hawdd mo hynny gan fod angen ateb heriau logistaidd yn ogystal â nifer o heriau eraill, ond dylai Academi sy’n hawlio gwasanaethu ein holl arweinyddion fod yn ceisio gwrando ar bob arweinydd, ble bynnag y maent.

Rydyn ni’n gweithio i sicrhau fod pawb yn cael cyfle i ymgysylltu â’n gwaith, cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr a manteisio ar ein digwyddiadau. Mewn hinsawdd o ddiwygio sy’n teimlo’n ddi-ddiwedd rydyn ni’n dechrau unioni’r cydbwysedd rhwng polisi ac ymarfer. Arweinyddion ein hysgolion sydd yn y sefyllfa orau i gymryd penderfyniadau am y cwricwlwm ac am addysgu a dysgu. Yn unol â hynny, fe ddylent fod yn cyfrannu at lywio’r broses o lunio polisi cenedlaethol. Yn gynyddol ystyrir bod mesurau atebolrwydd sy’n dod o’r brig i lawr ac sydd â llawer yn y fantol yn gyfryngau hen ffasiwn ac aflwyddiannus i wella ysgolion – ac mae’r llywodraeth yn gwrando. Mae’r system addysg yng Nghymru yn symud i bwynt lle mae arweinwyr ysgol yn cyfrannu at bolisi’r llywodraeth; a’r polisi hwnnw, yn ei dro, yn galluogi arweinwyr ysgol i ddatblygu eu hymarfer gyda’i gilydd.

Huw Foster Evans – Prif Weithredwr

Myfyrdod Cydymaith Carfan 2

Ar ôl bod yn gydymaith yng ngharfan 2 ers 9 mis bellach, cwblhau’r set gyntaf o brofiadau dysgu a mynd i’r afael â’n comisiwn – mae’n bryd cymryd eiliad neu ddwy i fyfyrio! Mae misoedd diwethaf wedi bod yn rhai prysur wrth i mi ddod i adnabod tîm o gymdeithion a staff amrywiol ac ymroddedig o bob rhan o Gymru sy’n meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg, cyfnodau cynradd ac uwchradd, ysgolion ffydd a ffederasiynau a gweithio gyda hwy i ddatblygu meddylfryd newydd arweinydd system. Dros y cyfnod hwnnw, gellir crynhoi ein gwaith dan bedwar prif bennawd :

1. Dysgu Proffesiynol

O Mererid Hopwood i Laura McAllister, ac Andy Hargreaves i Pak Tee Ng, rydym wedi dysgu gan arweinwyr sydd ar flaen y gad yn eu proffesiwn yn ogystal â rhai o’r prif feddylwyr yng Nghymru a ledled y byd. Rydym wedi dysgu am hyfforddi o lygad y ffynnon a chael profiad ohono. Rydym wedi meddwl am sut i ddatblygu’r sgiliau hyn ynddom ni’n hunain a’r timau rydym ni’n gweithio gyda hwy, yn yr ysgol ac yn ein gwaith gyda chymdeithion eraill. Rydym hefyd yn parhau i weithredu proses gymeradwyo’r Academi Arweinyddiaeth i sicrhau bod cyfleoedd hyfforddiant arweinyddiaeth o ansawdd da yn cael eu nodi fel y gall ysgolion gael mynediad atynt, sydd wedi fy helpu i fyfyrio ar ein Cenhadaeth Genedlaethol ac i sicrhau bod darparwyr yn ei gefnogi trwy eu cynigion.

2. Cynrychioli’r Proffesiwn

Ar yr adeg heriol a chyffrous hon i ysgolion, rydym hefyd wedi gwerthfawrogi’r cyfle i siarad ar ran y proffesiwn â llunwyr polisi a’r rhai a fydd yn siapio dyfodol addysg yng Nghymru. Rydym wedi cyfarfod â’r comisiynydd plant a’r comisiynydd Cymraeg yn ogystal â chynrychiolwyr o Estyn, y gweinidog ei hun a’i swyddogion. Mae hon yn elfen bwysig o’n gwaith ac yn un rydym yn teimlo sy’n dechrau cael effaith ar y llu o feysydd newid rydym ni’n eu profi mewn ysgolion heddiw.

3. Ein comisiwn

Mewn ymateb i lythyr cylch gorchwl y gweinidog at yr Academi Arweinyddiaeth, rydym wedi treulio amser yn llunio’r cwestiwn i’n comisiwn: Beth yw rôl arweinyddiaeth addysgol wrth wireddu gweledigaeth Cymru o ddiwylliant bywiog ac iaith Gymraeg ffyniannus? Wrth inni symud ymlaen â’r prosiect ymchwil hwn rydym wedi cymryd rhan mewn trafodaeth am y weledigaeth ar gyfer ein cenedl, dadansoddiad o dueddiadau data iaith cyfredol a chyfweliadau ag arweinwyr ysgolion, aelodau o’r haen ganol, academyddion a llunwyr polisi. Rydym hefyd wedi trafod yn helaeth sut a beth i’w gyflwyno mewn ymateb i’r cwestiwn hwn.

4. Hyrwyddo’r Academi

Mae’r maes gwaith olaf wedi cynnwys rhannu dealltwriaeth o’r Academi Arweinyddiaeth a’i gyfraniad at arweinyddiaeth ar lefel ehangach. Rydym wedi cyfrannu at gynhadledd genedlaethol gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth ac wedi rhannu ei gweledigaeth o ‘Ysbrydoli Arweinwyr – Cyfoethogi Bywydau’ gyda’n rhanbarthau, awdurdodau a fforymau lleol mewn cyfres o sioeau teithiol a digwyddiadau eraill. Yn ogystal, mae cyd-gymdeithion wedi ymweld ag Iwerddon i drafod y ‘Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth ar gyfer ysgolion’ yno a’r elfennau sy’n debyg i’n gwaith ni ein hunain.

Ac felly, wrth i wyliau’r Nadolig agosáu, ac wrth i mi hongian fy hosan a pharatoi fy nhrimins Nadoligaidd, edrychaf yn ôl ar flwyddyn brysur gyda boddhad sylweddol. Rwyf wedi dysgu llawer iawn am arweinyddiaeth, y weledigaeth addysgol ar gyfer ein cenedl ac yn hollbwysig amdanaf i fy hun. Rwy’n siŵr bod yr ysgol, y gymuned a’r myfyrwyr rwy’n eu gwasanaethu, wedi elwa o’r broses ddysgu hon ac edrychaf ymlaen at ddatblygu fy nghyfraniad parhaus i’r system ehangach.

Ian Gerrard – Pennaeth, Ysgol Aberconwy

Swyddi Gwag

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn chwilio am Brif Weithredwr deinamig i feithrin ac arwain ar waith yr Academi Arweinyddiaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17 Ionawr 2020. Cynhelir cyfweliadau yn Abertawe ar 5 a 6 Chwefror 2020.

Am wybodaeth ac i wneud cais, ewch i https://nael.cymru/cy/swyddi-gwag/