Skip to main content
English | Cymraeg
Mae angen Arweinyddiaeth Greadigol arnom

Mae angen Arweinyddiaeth Greadigol arnom

Er gwaethaf y pandemig rhyngwladol cyfredol (Covid 19) mae Cymru yn wynebu’r newidiadau mwyaf heriol i’w system addysgol ers datganoli ym 1999.

Yn 2017, lansiodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AS, Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein  cenedl. (LlC, 2017a) Cynllun gweithredu oedd hwn, ysgogiad mawr i drawsnewid y system addysg yng Nghymru. Hyd yma bu ailwampio mawr ar Hyfforddiant Cychwynnol Addysg, sefydlu Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, ymrwymiad i degwch, rhagoriaeth a lles ynghyd â chyd-adeiladu cwricwlwm a phroses asesu newydd. Wrth i ni aros am y Cydsyniad Brenhinol a phasio’r bil cwricwlwm ac asesu yn gyfraith, gofynnaf sut allwn ni sicrhau bod hyn yn gwneud gwahaniaeth i’n dysgwyr a’n pobl ifanc a sut y bydd hyn yn wahanol i fentrau gweinidogol eraill? Rhaid inni sicrhau bod y system addysg newydd wedi’i chynllunio yn y fath fodd fel ei bod yn cwrdd â’r heriau sy’n ein hwynebu nawr a’i bod yn gallu addasu i heriau’r dyfodol.

Wrth wraidd Cwricwlwm i Gymru (LlC, 2015b) mae’r pedwar diben, gyda’r bwriad o gefnogi ein dygwyr i fod yn:

  • Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau
  • Gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • Ddinasyddion egwyddorol, gwybodosu yng Nhgymur a’r byd
  • Unigolion iah, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Ysgrifennwyd y rhain yn benodol ar gyfer y dysgwyr, ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc. Mae’r dibenion hyn yn berthnasol i ddatblygiad pob dysgwr o’r blynyddoedd cynnar hyd at oedolion, wedi’r cyfan onid ydym i gyd yn ddysgwyr gydol oes? Gellir trosi’r dibenion hyn i’n bywyd gwaith a’n rolau ac maent yn arbennig o berthnasol i’r rhai mewn swyddi arweinyddiaeth addysgol. Dylai pob arweinydd fod yn unigolion iach, hyderus sy’n uchelgeisiol ac yn alluog, yn foesegol wybodus, sy’n fentrus ac yn greadigol. Mae pob un o’r pedwar diben yn hanfodol i arfer arweinydd, ond y diben mentrus a chreadigol yw’r allwedd i sicrhau llwyddiant trawsnewid y system addysg a’i chwricwlwm. Mae yna rai enghreifftiau rhagorol o arweinyddiaeth greadigol yn ein lleoliadau addysgol ledled Cymru ac mae’r argyfwng presennol yn sicr wedi gwthio’r ffiniau – os nad mewn rhai achosion, wedi chwalu’r  ffiniau – i archwilio arfer newydd ac arloesol. I wneud hyn mewn ffordd gydlynol a cholegol mae’n rhaid i ni ddatblygu arweinyddiaeth greadigol ac wrth wneud hynny, cefnogi gweithrediad llwyddiannus Cwricwlwm i Gymru.

Mae De Bono (2007) yn nodi ‘heb greadigrwydd dim ond ailadrodd a dilyn trefn arferol sydd… mae angen creadigrwydd ar gyfer newid, gwella a chyfeiriadau newydd.’ Rydym yn wynebu newid dramatig wrth inni symud ymlaen i gyfeiriad newydd tuag at gwricwlwm newydd yn 2022. Mae cyfeiriad newydd yn gofyn am ddull newydd a gwahanol ac felly, ni allwn barhau i gymhwyso’r un ffyrdd o Ddysgu Proffesiynol i’w ddyluniad ac yn bwysicach fyth i’w gyflawniad. Rhaid inni osgoi parhau i gymhwyso’r un dulliau diofyn a rhaid inni osgoi dilyn yr un arferion. Er enghraifft, pam mae ysgolion yn dal i gael tri thymor gyda gwyliau haf chwe wythnos?  Mae ychydig o ysgolion yng Nghymru wedi bod yn arloesol yn eu dulliau o strwythuro (neu ailstrwythuro) yr wythnos ysgol (Evans, 2021). Gwnaethpwyd hyn gyda’r bwriad o greu lle ac amser ychwanegol i weithwyr proffesiynol ystyried eu lles eu hunain yn ogystal ag amser a lle i gael mynediad at gyfleoedd Dysgu Proffesiynol hynod effeithiol.

Felly, ai dyma’r amser i’n harweinwyr fod yn ‘cymryd risgiau pwyllog’ ac yn ‘meddwl yn greadigol i ail-lunio’ (LlC, 2015b) mae Robinson (2017) yn awgrymu bod angen meithrin arweinyddiaeth greadigol mewn diwylliant o arloesedd, ac mae e’n dweud ei fod yn ddibynnol ar feithrin tair proses: Dychymyg, Creadigrwydd ac Arloesedd. Dywed y gallai arloesedd fod y nod, ond rhaid iddo ddechrau gyda’r dychymyg ac mai creadigrwydd yw’r broses cyn rhoi’r arloesedd ar waith. Nawr yw’r amser i ddychmygu sut y gallai Cwricwlwm i Gymru ddarparu addysg sy’n ddeinamig, yn gyffrous ac yn ddeniadol? Sut y gellir creu’r hinsawdd a’r amodau i ganiatáu i hyn ddigwydd? Mae arloesi yn un o’r pum safon a gynhwysir yn y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth (LlC, 2017c) ond yn ddiddorol nid yw’r geiriau dychymyg a chreadigrwydd yn ymddangos yn y safonau hyn. Ond mae angen i’r dull o ddatblygu arloesedd fel mae Robinson yn awgrymu, gael yr hinsawdd gywir, mae angen yr amodau cywir ac mae angen i arweinwyr fod yn gyfrifol am ddatblygu’n strategol yr amodau ar gyfer Dychymyg, Creadigrwydd a Arloesedd i ffynnu. Mae Robinson (2017) yn awgrymu ymhellach bod arweinydd creadigol yn cynllunio’n strategol i hwyluso galluoedd creadigol pob aelod o’r sefydliad a’u bod yn ffurfio timau creadigol i gydweithredu a hyrwyddo diwylliant o arloesedd yn strategol o fewn y sefydliad. Mae angen i’r arweinwyr creadigol ddarparu’r amgylchedd a’r hinsawdd er mwyn i greadigrwydd ac arloesedd ffynnu. Mae angen rhyddhau ymarferwyr rhag ‘ailadrodd a a dilyn trefn arferol’(De Bono,2007)  er mwyn caniatáu ar gyfer profiadau dysgu cyfoethog a fydd yn caniatáu iddynt ddychmygu. Lle mae’r diwylliant hwn yn bodoli gall arweinwyr ac athrawon ‘gymryd risgiau pwyllog’ a ‘rhoi o’u hegni a’u sgiliau fel y gallai eraill elwa’ (LlC, 2019)

Er mwyn gweithredu ac ymgorffori’r Cwricwlwm ar gyfer Cymru, yn sicr mae angen arweinyddiaeth weledigaethol gref arnom, ond mae angen arweinyddiaeth ddeinamig a chreadigol arnom hefyd i sicrhau ein bod yn cyflwyno cwricwlwm sy’n parhau i ganolbwyntio ar ddarparu addysg a fydd yn addas yn y dyfodol.

Tegwen Ellis, Prif Weithredwr
Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Ysgrifennwyd y blog hwn ar gyfer Cymdeithas Arweinyddiaeth, Rheolaeth a Gweinyddiaeth Addysgol Prydain (BELMAS). Dyma blog cyntaf BELMAS i gael ei gyhoeddi’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

Cyfeiriadau

De Bono, E., 2007. How to have creative ideas. London: Vermilion.

Donaldson, G., 2015. [online] Gov.wales. Available at: <https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-03/succesful-futures-a-summary-of-professor-graham-donaldsons-report.pdf> [Accessed 16 April 2021].

Evans, G., 2021.The Value of Asymmetric School Weeks: Lessons Learned from Schools in Wales. Swansea: National Academy for Educational Leadership and UWTSD.

Robinson, K., 2017.Out of Our Minds The Power of Being Creative. 3rd ed. United Kingdom: John Wiley & Sons Ltd.

Welsh Government, 2017. Professional standards – Hwb. [online] Hwb.gov.wales. Available at: <https://hwb.gov.wales/professional-development/professional-standards/> [Accessed 16 April 2021].

Welsh Government, 2021. [online] Gov.wales. Available at: <https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-03/education-in-wales-our-national-mission.pdf> [Accessed 16 April 2021].

Welsh Government, 2021. Written Statement: Curriculum for Wales 2022 (30 April 2019) | GOV.WALES. [online] GOV.WALES. Available at: <https://gov.wales/written-statement-curriculum-wales-2022> [Accessed 16 April 2021].

Yn ôl