Skip to main content
English | Cymraeg
Academi Arweinyddiaeth ar rhestr fer yng ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2022

Academi Arweinyddiaeth ar rhestr fer yng ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2022

Mae Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ar gyfer y Wobr Iechyd a Lles(hyd at 500 o bobl) yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2022. 

 Mewn blwyddyn sy’n torri record o ran ceisiadau, gyda mwy na 300 o sefydliadau’n cymryd rhan, mae hwn yn gyflawniad eithriadol ac yn un y mae pawb yn Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn falch ohono. 

Mae’r Gwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl yn dathlu’r sefydliadau a’r unigolion gorau o bob rhan o’r byd ar draws amrywiol sefydliadau, pobl, categorïau llesiant ac arweinyddiaeth. Bob blwyddyn mae cannoedd o sefydliadau o’r DU a thramor yn brwydro i fynd ag un o’r tlysau y mae galw mawr amdano adref i ddangos eu hymrwymiad arobryn i #GwneudGweithio’n Well. 

 Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru: “Rwyf wrth fy modd bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi’i henwebu ar gyfer gwobr Buddsoddwyr mewn Lles. Mae ein sefydliad yn buddsoddi’n gydwybodol i sicrhau bod ein holl weithwyr yn teimlo eu bod yn cael gofal a chefnogaeth dda. 

 “Roedd ennill y wobr Aur yn gwbl anhygoel ac mae cyrraedd y rhestr fer nawr am gydnabyddiaeth bellach yn dangos ymhellach sut rydyn ni’n gosod pwysigrwydd gweithlu sy’n derbyn gofal da wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.” 

Dywedodd Dr Sue Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol: “Rwyf wrth fy modd bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol wedi cyrraedd rhestr fer Y Wobr Iechyd a Lles yng Ngwobr Buddsoddwyr mewn Pobl 2022. Mae hyn yn gyflawniad arwyddocaol ac yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y sefydliad i flaenoriaethu llesiant y rheini yn y system addysg yng Nghymru. 

“Mae’r tîm yn sicrhau bod lles yn nodwedd annatod o’i waith ac yn cael ei flaenoriaethu yn ei waith i gefnogi arweinwyr yn y system yn llawn. Gan gydnabod ei fod yn gyfnod heriol a chyffrous i addysg yng Nghymru, mae lles ei harweinwyr yn elfen hanfodol o lwyddiant. 

“Fel Cadeirydd y Bwrdd, rwy’n hynod falch o’r tîm staff a chydweithwyr ar y gwaith y maent yn ei wneud yn ddi-baid o ran eu cyfraniad, eu hangerdd a’u hymrwymiad i sicrhau llesiant arweinwyr, ac mae wedi arwain at hyn, sy’n haeddiannol. Cyflawniad godidog. Gwn y byddai’r Bwrdd yn dymuno llongyfarch a diolch i’r tîm cyfan am eu hymrwymiad parhaus rhagorol.” 

Dywedodd Paul Devoy, Prif Swyddog Gweithredol Buddsoddwyr mewn Pobl: “Yn yr hyn sydd wedi bod y flwyddyn fwyaf a mwyaf cystadleuol hyd yn hyn, mae bob amser yn gwneud i mi deimlo’n hynod falch o weld cymaint o sefydliadau ac unigolion gwych yn honni mai nhw yw’r gorau. A phob blwyddyn, mae’r cynigion yn mynd yn fwyfwy cystadleuol a’r beirniadu hyd yn oed yn dynnach. Mae cyrraedd y rhestr fer derfynol yn dyst i’r ymrwymiad anhygoel y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud i wneud gwaith yn well i’w pobl, ac maent yn wirioneddol haeddu’r gydnabyddiaeth hon.” 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni gala ar 15 Tachwedd yn Old Billingsgate yn Llundain. 

 I gael y rhestr lawn a mwy o wybodaeth am Fuddsoddwyr mewn Pobl ewch i www.investorsinpeople.com/awards-2022/ 

Yn ôl