Skip to main content
English | Cymraeg

Arweinwyr addysgol yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd eleni

Bydd tri arweinydd yn y sector addysg yng Nghymru yn croesawu gwesteion yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Wrth i Urdd Gobaith Cymru ddathlu blwyddyn ei chanmlwyddiant, bydd Eisteddfod yr Urdd eleni yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych i nodi’r lleoliad lle cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf yr Urdd yn 1929.

Mae Cymwysterau Cymru, Estyn a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn rhannu stondin yn Eisteddfod yr Urdd eleni, fydd yn digwydd o ddydd Llun 30 Mai i ddydd Sadwrn 4 Mehefin.

Drwy gydol yr wythnos, bydd y rheoleiddiwr, yr arolygiaeth a’r Academi Arweinyddiaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r rhai fydd yn ymweld â stondin 12-14 ar newidiadau i system addysg Cymru, gan ganolbwyntio ar ddiwygio’r cwricwlwm.

Ddydd Mercher 1 Mehefin, gwahoddir ymwelwyr i wylio sesiwn panel holi ac ateb fyw rhwng y tri sefydliad a Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fydd yn dechrau am 11.30am.

Dywedodd David Jones, Cadeirydd Cymwysterau Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn mynychu Eisteddfod yr Urdd eleni gydag Estyn a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, rydyn ni’n ddiolchgar o fod yn mynychu sioeau a digwyddiadau fel y rhain er mwyn i ni siarad â’r cyhoedd wyneb yn wyneb.

“Mae Eisteddfod yr Urdd yn gyfle amserol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr am y ddarpariaeth Gymraeg, yn enwedig ar ein strategaeth Dewis i Bawb sy’n gosod ein gweledigaeth ar gyfer cynyddu argaeledd cymwysterau cyfrwng Cymraeg, a’n gwaith grant i gefnogi’r Gymraeg.

Rydyn ni’n annog ymwelwyr i siarad â ni am gymryd rhan yn ein gwaith diwygio’r cwricwlwm, Cymwys ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n agos gyda dysgwyr, athrawon, rhieni, gofalwyr ac eraill i helpu i lunio’r cymwysterau TGAU rydyn ni’n disgwyl eu cyflwyno ym mis Medi 2025. Byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith hon fel rhan o sesiwn holi ac ateb dydd Mercher, sy’n agored i bawb.”

Bydd y sesiwn banel, a gynhelir ar stondin 12-14, yn gweld y tri sefydliad a’r Gweinidog yn ateb cyfres o gwestiynau yn ymwneud â system addysg Cymru a’u rolau o fewn y system, cyn y gofynnir i ymwelwyr gymryd rhan yn y sgwrs. Mae disgwyl bydd y sesiwn yn para 30 munud.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Mae’n gyfnod cyffrous iawn i addysg yng Nghymru, gydag ysgolion yn paratoi i ddechrau addysgu ein cwricwlwm newydd o fis Medi ymlaen. Mae’n bwysig ein bod ni’n ymgysylltu â chymaint o ddysgwyr, athrawon a phawb ym myd addysg ar ein cwricwlwm newydd a dyfodol cymwysterau – a pha le gwell i wneud hynny nag yn Eisteddfod yr Urdd, un o ddigwyddiadau mwyaf a phwysicaf ein calendr diwylliannol. ”

Dywedodd Tegwen Ellis, Prif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru: “Os ydyn ni am gyflawni’r uchelgais cenedlaethol a osodwyd ar gyfer ein dysgwyr, yna afraid dweud bod gweithio mewn partneriaeth yn flaenoriaeth. Dyna pam mae’r wythnos hon, ar faes Eisteddfod yr Urdd, yn gyfle gwych i’r tri mudiad gydweithio i hyrwyddo a darparu gwell dealltwriaeth o’r rôl sydd gennym ni i gyd wrth gefnogi’r gyfundrefn addysg. Rydyn ni’n edrych ymlaen at siarad â dysgwyr, rhieni, athrawon ac arweinwyr o bob rhan o Gymru, gyda’n gilydd.”

Yn ogystal â chael cyfle i siarad â staff o bob un o’r tri sefydliad, mae lle i westeion iau gymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft.

Ychwanegodd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi yn Estyn: “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn bresennol yn Eisteddfod yr Urdd eleni wrth i’r mudiad ddathlu ei ganmlwyddiant ac ar ôl iddyn nhw ymateb gyda’r fath bwrpas dros y pandemig. Ar ôl dwy flynedd o weithio gyda darparwyr addysg, rhieni a dysgwyr drwy gyfres o ymweliadau ymgysylltu rhithwir, mae’n wych nawr gallu agor y sgyrsiau hyn mewn lleoliad wyneb yn wyneb. Rydw i hefyd yn falch y byddwn ni’n rhannu lle gyda dau o’n partneriaid addysgol.

“Ochr yn ochr â Cymwysterau Cymru a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru, bydd ein tîm wrth law i groesawu ymwelwyr a siarad am y cyfleoedd a’r heriau sydd o’n blaenau yn ogystal â’r newidiadau y byddwn ni’n eu gweithredu wrth i ni ddychwelyd i’n harolygiadau a gweithgareddau sy’n agosach at fod yn normal.

“Byddwn ni’n cyflwyno ein trefniadau arolygu newydd ym mis Medi ac yn gweithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod y fframwaith newydd yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd ac yn ei gefnogi. Byddwn i’n annog pobl i ymweld â’n stondin i gael gwybod mwy ac i rannu eu barn.”

I gael rhagor o wybodaeth am y tri sefydliad ewch i wefan Cymwysterau Cymru, gwefan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru a gwefan Estyn.

 

Diwedd –

Nodiadau i olygyddion:

Mae Cymwysterau Cymru yn gorff ac yn rheoleiddiwr a noddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am gydnabod cyrff dyfarnu ac am adolygu a chymeradwyo cymwysterau nad ydynt yn raddau yng Nghymru.

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru yn cael ei harwain gan dîm bychan o staff ac mae’n cyfrannu at ddatblygu galluoedd proffesiynol arweinwyr presennol a darpar arweinwyr ym mhob rhan o’r system addysg. Mae’n gweithredu fel arweinydd agweddau gan ymdrechu i ddod ag eglurder a chydlyniad i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.

Mae Estyn yn arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Maen nhw’n cynorthwyo darparwyr addysg a hyfforddiant i ddatblygu diwylliant o hunanwella a dysgu trwy gyngor, arolygu a meithrin gallu.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Jenna Llewellyn
Rheolwr Cynnwys, Cymwysterau Cymru
01633 373269
jenna.llewellyn@qualificationswales.org

Charlotte Thomas
Rheolwr Cyfathrebu, Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru
07784 237123
charlotte.thomas@agaa.cymru

Yn ôl