Skip to main content
English | Cymraeg
Ble aeth yr amser?

Ble aeth yr amser?

Mae wedi bod dros 6 mis! Ble aeth yr amser? Go brin ei bod yn teimlo fel 5 munud ers i mi adael Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i ddod yn secondiad gyda’r Academi Arweinyddiaeth. I ddechrau, roedd popeth yn teimlo ychydig yn aneglur. Mae’n rôl mor wahanol i amgylchedd ysgol brysur. Rwy’n falch o ddweud serch hynny, bod y teimladau o “beth ydw i’n ei wneud” wedi mynd ac mae cynrychioli’r sector gwaith ieuenctid yma o fewn yr Academi Arweinyddiaeth yn ennill parch a momentwm wrth i ni estyn allan ar draws y rhwydweithiau.

Rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl newydd, a dyna brofiad gwych y mae’r cyfle hwn yn profi i fod. Nid yn unig ydw i’n canolbwyntio ar arweinyddiaeth gwaith ieuenctid, lles arweinwyr a datblygiad, ond rydw i’n cymryd rhan mewn rhaglen o ddysgu proffesiynol i mi fy hun. Hyfforddi, hwyluso, cymorth cyntaf iechyd meddwl, gweithdai arloesedd, gweminarau, paneli cymeradwyo a sicrhau ansawdd, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Gallaf deimlo fy hun yn newid ac yn cynyddu hyder yn fy adral newydd.

Mae fy secondiad yn parhau tan fis Mawrth 2022 – mae’n achos i ddathlu! Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi ymrwymo i gefnogi ein harweinwyr mewn addysg anffurfiol ac ôl-16 a gyda’r estyniad hwn, gallaf ddod i adnabod mwy o’n cydweithwyr mewn gwaith ôl-16 yn ogystal â gwaith ieuenctid. Cymerais y secondiad hwn, oherwydd roeddwn wedi dod yn rhy gyffyrddus yn fy hen rôl ac roedd angen her arnaf, i gamu y tu allan i’m parth cysur, a dyma’n union ydyw. Ers mis Hydref 2020, mae fy rôl wedi bod yn 100% yn gweithio o gartref ac rwyf wedi bod yn mwynhau’r ffordd newydd hon o weithio, wrth i fi defnyddio “Zoom” ledled y wlad, ond rwyf mor gyffrous i gwrdd â fy nhîm rhithwir yr Academi Arweinyddiaeth yn bersonol yn fuan iawn!

Ann Slater, Ymgynghorydd Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrwydd Ansawdd – Ieuenctid ac Ôl-16

Yn ôl