Skip to main content
English | Cymraeg

Richard Hatwood

Cydymaith

Richard Hatwood yw pennaeth Ysgol yr Holl Saint sy’n Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi’i lleoli ym mhentref Gresffordd yn Wrecsam, Gogledd Cymru.

Mae ganddo gyfoeth o brofiad arwain ar lefel ysgol ac awdurdod lleol. Cyn dod yn bennaeth roedd Richard yn Swyddog Cynhwysiant yng Nghyngor Sir Ddinbych a chefnogodd weithrediad y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae Richard yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cydweithredol i gefnogi gwella ysgolion, gan gynnwys bod yn Arweinydd Rhaglen TAR y Brifysgol Agored Cymru, cynrychioli ei glwstwr ar Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd yr Awdurdodau Lleol a hefyd ymwneud â phrosiectau gwella ysgolion gyda chydweithwyr mewn awdurdodau lleol eraill.

Mewn swyddogaeth arall, mae Richard yn aelod o Fwrdd Golygyddol y Primary Geography Journal ac wedi darparu cymorth gwella ysgolion i nifer o ysgolion a chlystyrau gyda ffocws ar greu diwylliant ymholi a datblygu gwybodaeth a sgiliau daearyddol.

Twitter icon@AllSaintsCIW

Richard Hatwood

Cwrdd â Charfan 5

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Cydymaith

Geraldine Foley

Cydymaith

Margaret Davies

Cydymaith