Michelle Kerswell yw Rheolwr Cwricwlwm gydag Addysg Oedolion Cymru, darparwr dysgu oedolion ôl-16 Cymru gyfan. Mae’n arwain ar y ddarpariaeth gymunedol, gweithle a phrosiect ar draws y sefydliad ac mae hefyd yn arweinydd strategol ar gyfer addysgu a dysgu. Dechreuodd Michelle ei gyrfa ym myd addysg yng Ngrŵp Llandrillo Menai ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad o weithio yn y sectorau ôl-16, ar ôl gweithio o fewn Addysg Bellach, Dysgu Seiliedig ar Waith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned.
Drwy gydol ei gyrfa, mae Michelle wedi bod yn eiriolwr angerddol dros y sector dysgu oedolion yn y gymuned ac mae’n chwarae rhan weithredol wrth sicrhau bod gan y sector a’i ddysgwyr le a llais o fewn addysg ôl-16. Mae hi wedi bod yn allweddol yn natblygiad cynlluniau peilot ‘Cwricwlwm Dinasyddion’ ledled Cymru, gan weithio’n agos gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith a Llywodraeth Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Strategol Ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Rhwydwaith Partneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac yn aelod o Grŵp Strategol Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru.
Mae Michelle yn iogi brwd ac yn mwynhau treulio amser yn cerdded ac yn archwilio coedwigoedd, llynnoedd a mynyddoedd niferus Gogledd Cymru, lle mae’n byw gyda’i gŵr. Mae ganddi ddwy ferch, un llysfab, un llysferch a chi, sy’n ei chadw’n brysur, actif ac ar flaenau ei thraed!