Skip to main content
English | Cymraeg

Helen Jones

Cydymaith

Mae Helen Jones yn bennaeth yn Ysgol Maesteg yn Ne Cymru. Arwyddair ei hysgol yw ‘Cymhelliant i Ymdrechu’ i annog staff a disgyblion i gredu y gallant wneud unrhyw beth os ydynt yn gosod eu meddwl iddo, yn gweithio’n galed a byth yn rhoi’r gorau iddi. Mae hi wedi bod yn uwch arweinydd yng Nghymru ers 20 mlynedd ac mae’n mawr obeithio y bydd diwygio’r cwricwlwm yn sicrhau tegwch mewn addysg fel bod ein plant yn dyheu am gyflawni. Mae hi’n hyrwyddwr gwirioneddol dros gael pwrpas moesol ac angerdd dros ddatblygu pobl ifanc i gyflawni’r gorau y gallant, gan gynyddu eu cyfleoedd bywyd a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Mae Helen bob amser wedi ceisio datblygu arfer arloesol o fewn ysgolion i wneud addysgu’r yrfa gyffrous a gwerth chweil y dylai fod, a dysgu’r profiad pleserus, anorchfygol a pherthnasol y mae ein plant yn ei haeddu. Ei dyhead fel Cydymaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yw gwrando ar arweinwyr a gweithio ar y cyd i ddatblygu arweinyddiaeth ragorol ledled Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag arweinwyr a chydweithwyr rhagorol ledled Cymru yn fy rôl fel Cydymaith.”

Twitter icon@MaestegSchool

Helen Jones

Cwrdd â Charfan 5

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Cydymaith

Geraldine Foley

Cydymaith

Margaret Davies

Cydymaith