Skip to main content
English | Cymraeg

Claire Rayner

Cydymaith

Claire Rayner yw pennaeth ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg, Ysgol Min y Ddol, yng Nghefn Mawr, Wrecsam. Mae Claire yn frwd dros sicrhau darpariaeth sy’n canolbwyntio’n bennaf ar iechyd a lles ac yn ystyried ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Mae gan Claire brofiad blaenorol o fod yn gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol ar draws tair ysgol o fewn Ffederasiwn Dyffryn Ceiriog. Mae cadw’r Gymraeg yn fyw yn ei hysgogi a’i hysbrydoli i gefnogi nifer o fentrau o fewn yr awdurdod lleol sy’n canolbwyntio ar wella darpariaeth ieithyddol.

Mae Claire yn gadeirydd naw ysgol glwstwr sy’n cynnwys cynradd ac uwchradd, ac mae’n eu cynrychioli o fewn y ffederasiwn penaethiaid cynradd.

“Fel Cydymaith, mae gen i ddiddordeb mawr mewn derbyn cefnogaeth gan wahanol arweinwyr ledled Cymru ac yr un mor hapus i rannu a chydweithio ag eraill. Rwy’n arweinydd angerddol, awyddus ac arloesol sy’n derbyn heriau ac yn croesawu newid. Mae gennym ni i gyd amser cyffrous o’n blaenau gyda nifer fawr o newidiadau ar y gweill, felly mae’n amser arbennig i ddysgu oddi wrth ein gilydd.”

Mae gan Claire deulu bach cariadus, bywiog a hwyliog ac un o’i hoff bethau i’w wneud yw mynd adref i’w gwreiddiau yn Harlech a cherdded ar hyd y traeth gyda’r cŵn!

Twitter icon@YsgolMinyDdol

Claire Rayner

Cwrdd â Charfan 5

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Cydymaith

Geraldine Foley

Cydymaith

Margaret Davies

Cydymaith