Skip to main content
English | Cymraeg

Catrin Coulthard

Cydymaith

Catrin Coulthard yw pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae Catrin wedi arwain rhifedd ar draws Consortiwm Canolbarth y De (CCD) a chafodd gyfle arbennig i fod yn rhan o gynllunio’r cwricwlwm newydd fel ysgol arloesol.

Mae Catrin wedi mwynhau ac wedi elwa o fynychu digwyddiadau’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol fel Datgloi Arweinyddiaeth a Pen-i-Ben. Rhoddodd y sesiynau hyn gyfle i Catrin drafod ag arweinwyr o bob rhan o Gymru a chymryd syniadau gan arweinwyr y tu hwnt i’r byd addysg ac mae wedi cyfrannu at ei datblygiad proffesiynol.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn Gydymaith a chael cyfleoedd i ddysgu a chydweithio ag arweinwyr o bob rhan o Gymru a chael fy herio i feddwl yn wahanol. Fy nyheadau yw i’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol gael ei chydnabod ledled Cymru fel sefydliad o safon sy’n cefnogi arweinyddiaeth, cydweithio ac ysgolion fel sefydliadau sy’n dysgu.”

Mae Catrin wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i theulu a gwylio ei meibion yn chwarae rygbi ynghyd â Phencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae Catrin hefyd yn mwynhau mynd i’r ganolfan hamdden i gadw’n heini!

Twitter icon@calonycymoedd

Catrin Coulthard

Cwrdd â Charfan 5

Gweld y Cyfan
Dewi Wyn Hughes

Cydymaith

Geraldine Foley

Cydymaith

Margaret Davies

Cydymaith