Skip to main content
English | Cymraeg

Yr Athro Alma Harris – Trafodaeth

Mae’r Athro Emeritws Alma Harris, FAcSS, FLSW, FRSA wedi gweithio ym Mhrifysgol Warwick, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Malaya, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Abertawe. Mae hi’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil a’i hysgrifennu ar arweinyddiaeth addysgol, polisi addysg a gwella ysgolion. Yn 2009–2012, bu’n Uwch Ymgynghorydd Polisi i Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo gyda’r broses o ddiwygio’r system gyfan. Cydarweiniodd y rhaglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol (CDP) genedlaethol ac arweiniodd ar ddatblygu a gweithredu cymhwyster meistr ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru. Mae hi’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Wedi’i recordio yn ystod cynhadledd Arwain o’r Canol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar 31 Mawrth 2022.