Skip to main content
English | Cymraeg

Blether Rhyngwladol: ‘Disgleirio Golau ar Arweinyddiaeth Ganol’

Dydd Llun 22 Tachwedd 4-5pm

Mae arweinwyr canol yn rhan annatod o amgylchedd yr ysgol, o reoli perthnasoedd i weithredu newid. Gall swyddi arweinwyr canol fod yn ffurfiol ac yn anffurfiol ond efallai na fydd yn bosibl creu un model cyffredinol o arweinyddiaeth ganol, felly pwy yw’r arweinwyr canol a sut wnaethon nhw gyrraedd yno?

Yn y Blether Rhyngwladol yma cewch glywed gan chwe arweinydd canol o bob rhan o Iwerddon, yr Alban a Chymru wrth iddynt rannu eu meddyliau, eu profiadau a’u heriau o’u rolau, a’u mewnwelediadau ar sut y daethant yn arweinwyr canol.

Cydweithrediad Tair Gwlad rhwng Canolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon, Addysg yr Alban a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.