Skip to main content
English | Cymraeg

Blether Rhyngwladol: ‘Addasu fel Arweinydd – Symud Ymlaen’

Dros y flwyddyn ddiwethaf bu’n rhaid i arweinwyr ysgolion addasu eu harddull a’u hymagwedd at arweinyddiaeth, o arwain mewn argyfwng yn ystod y pandemig, i ddatblygu arweinyddiaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Blether Rhyngwladol hon yn cynnwys chwe arweinydd ysgol o Iwerddon, yr Alban a Chymru yn rhannu eu profiadau ar wneud y gorau o’u dysgu o’r pandemig. Cynlluniwyd y digwyddiad hwn ar gyfer uwch arweinwyr ysgolion mewn rolau penaethiaid a dirprwy benaethiaid.

Cydweithrediad Tair Gwlad rhwng y Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon, Addysg yr Alban ar Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.

Wedi’i recordio ar Zoom ar ddydd Mercher 21 Ebrill 2021.