English | Cymraeg
Leadership Development Header Welsh

Datblygu Arweinyddiaeth

Darperir cyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gyfer pob sector ac mae’n caniatáu i arweinwyr addysgol o bob rhan o Gymru gyfarfod, myfyrio, trafod materion, syniadau a chamau gweithredu. Gweler ein gweithgareddau Datblygu Arweinyddiaeth bresennol ar ein tudalen digwyddiadau. Mae ein gweithgareddau Datblygu Arweinyddiaeth yn cynnwys:

Digwyddiadau Mewn Trafodaeth

Mae ein digwyddiadau Mewn Trafodaeth yn cefnogi ein papurau Cyfres Mewnwelediad. Mae’r digwyddiadau ar-lein hyn yn archwilio pynciau a themâu’r papurau gyda’r awdur ac ymarferwyr yn rhannu eu syniadau a’u safbwyntiau mewn perthynas â’u profiad, sefydliadau a lleoliadau eu hunain. Daliwch i fyny gyda digwyddiadau blaenorol ar ein tudalen cyfryngau.

In Conversation

Blether Rhyngwladol

Rydym yn cynnal digwyddiadau mewn trafodaeth Belther Rhyngwladol fel rhan o Gydweithrediad y Tair Gwlad rhwng y Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon, Education Scotland ac Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mae’r digwyddiadau Blether Rhyngwladol yn agored i bob addysgwr ac arweinydd ar draws y tair gwlad. Mae’r digwyddiadau Blether blaenorol wedi archwilio lles arweinwyr ac arweinyddiaeth ganol.

International Blether

Datgloi Arweinyddiaeth

Mae ein gweminarau Datgloi Arweinyddiaeth boblogaidd yn cael eu harwain gan siaradwr gwadd nodedig ac wedi’u cynllunio ar gyfer y rheini mewn rolau arweinyddiaeth uwch o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a cholegau addysg bellach a’u nod yw eu cefnogi yn eu rolau fel arweinwyr systemau. Mae’r digwyddiadau hyn ar y we yn darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ac ysbrydoledig, sy’n ddifyr, yn ysgogol, yn ysgogi, yn gydweithredol, yn gynhwysol ac yn deg i bawb. Mae’r gweminarau’n cynnwys siaradwyr o fewn a thu allan i’r maes addysg ac mae siaradwyr blaenorol wedi cynnwys yr Athro Mick Waters, yr Uwchgapten Marcus Heslop, yr Athro Laura McAllister a Dr Benna Waites a Dr Adrian Neal.

Leadership Unlocked

Cynadleddau Cenedlaethol

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cynadleddau blynyddol sy’n canolbwyntio ar les ac arweinyddiaeth ganol. Mae ein cynadleddau yn cynnwys siaradwyr rhyngwladol sy’n archwilio’r ymchwil mwyaf diweddar ac ymarferwyr yn rhannu eu profiadau fel lleisiau o’r maes. Mae cynadleddau blaenorol wedi canolbwyntio ar Arweinyddiaeth Dosturiol ac Arwain o’r Canol gyda siaradwyr gwadd fel Dr John De Nobile, yr Athro Alma Harris, yr Athro Michael West CBE a Dr Ali Davies. Daliwch i fyny gyda’r cynadleddau blaenorol ar ein tudalen cyfryngau.

Leadership Development icon green