Skip to main content
English | Cymraeg

Datblygu arweinyddiaeth ganol mewn ysgolion yng Nghymru

Yr Athro Christine Forde a Kathleen Kerrigan
Ysgol Addysg, Prifysgol Glasgow

Mae’r astudiaeth bolisi hon yn rhan o Brosiect Datblygu Cydweithredol Tair Gwlad ar Arweinyddiaeth Ganol sy’n cynnwys Education Scotland (Scottish Centre for Educational Leadership), y Centre for School Leadership yng Ngweriniaeth Iwerddon a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru. Mewn gwaith cychwynnol olrheiniwyd esblygiad arweinyddiaeth ganol yn systemau addysg Iwerddon a’r Alban (Forde et al. 2019). Wedi hynny, cynhaliwyd symposiwm o staff a Chymdeithion o’r tair canolfan datblygu arweinyddiaeth ym Maynooth, Gweriniaeth Iwerddon, yn archwilio rôl a datblygiad arweinyddiaeth ganol ym mhob system addysg (Forde 2019).

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth bolisi ar ddatblygu arweinyddiaeth ganol mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd y nodau ymchwil fel a ganlyn:

  • Dadansoddi polisi i fapio’r ffordd y mae ‘arweinyddiaeth ganol’ wedi datblygu mewn ysgolion yng Nghymru.
  • Archwilio goblygiadau esblygiad ‘arweinyddiaeth ganol’ ar gyfer datblygu’r lefel hon o arweinyddiaeth yn y dyfodol.
  • Nodi meysydd ar gyfer y dysgu proffesiynol i gefnogi rôl arweinwyr canol mewn ysgolion yng Nghymru.

Lawrlwythwch y papur