Diweddariad
Mae tymor yr Hydref wedi bod yn brysur iawn yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Rydym wedi croesawu pedwar aelod newydd i’r tîm, Mark Isherwood fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol newydd ar gyfer Datblygu Arweinyddiaeth a Sicrhau Ansawdd a Nia Miles, Sue Roberts ac Ann Slater fel secondion. Ewch i’n tudalennau Pwy ydyn ni i ddysgu mwy am y tîm. O ganlyniad i’r sefyllfa’r Coronafeirws, mae’r tîm yn parhau i weithio gartref a gellir cysylltu â nhw drwy e-bost neu dros y ffôn.
Ail-gychwynodd ein gweithgareddau a’n digwyddiadau gyda’n galwad Cymeradwyo sy’n gwahodd darpariaeth o bob sector i ddod ymlaen. Gall ddarpariaeth fod ar gyfer unrhyw gam yrfa o arweinyddiaeth addysgol neu gall fod yn thematig neu’n benodol i faes datblygu arweinyddiaeth. Y dyddiad cau am geisiadau yw’r 12 Chwefror 2021, wele’r wefan am fwy o wybodaeth.
Croesawodd ein hail gyfres weminar Datgloi Arweinyddiaeth, 4 siaradwr rhagorol o wahanol sectorau a chefndiroedd. Daeth pob un â ffocws gwahanol ar arweinyddiaeth a oedd yn adfywiol ac yn procio’r meddwl. Roedd hwn yn gyfle i arweinwyr o bob sector ledled Cymru ddod ynghyd a thrafod ac archwilio. Roedd y gyfres yn cynnwys yr Athro Stephen Heppell, Uwchgapten Marcus Heslop, yr Athro Laura McAllister CBE, FLSW a’r Athro Mick Waters. Mae’r gweminarau hyn ar gael i wrando arnynt fel rhan o’n cyfres Podlediad NEWYDD.
Hefyd fe wnaethom lansio nifer o fentrau newydd gan gynnwys ein gwasanaeth Pen-i-Ben, sy’n cynnig lle diogel i Benaethiaid ddod at ei gilydd o bob rhan o Gymru i drafod eu Lles eu hunain. A hefyd cyflwynwyd ein e-gylchlythyr newydd, Cyswllt. Mae ein e-gylchlythyr misol yn cynnwys newyddion, digwyddiadau a gwybodaeth i arweinwyr o bob rhan o’r sector addysg. Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr ar-lein a pheidiwch byth â cholli allan.
Mae’n gyfnod prysur a phryderus i arweinwyr ysgolion ar hyn o bryd felly os byddwch angen cymorth neu sgwrs cysylltwch trwy post@agaa.cymru.
Bydd y swyddfa ar gau dros gyfnod y Nadolig rhwng 21 Rhagfyr 2020 a 4 Ionawr 2021.
Amdanom Ni
Rydym yn sefydliad annibynnol bychan a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o ymrwymiadau a wnaed yng nghynllun gweithredu’r llywodraeth “Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl”. Bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn rhan hanfodol o’r dirwedd addysg.
Ein cenhadaeth yw “Ysbrydoli Arweinwyr: Cyfoethogi Bywydau” gyda’r nod o sicrhau eglurder a chydlyniad i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru. Drwy ein gwaith, byddwn yn sicrhau bod ymarferwyr yn gallu ymgysylltu gyda’r dysgu proffesiynol mwyaf perthnasol, ystyrlon ac ysbrydoledig. Yr her a osodwyd i ni gan yr OECD, Estyn a’r proffesiwn oedd sicrhau dull system gyfan tuag at arweinyddiaeth, a’i wneud yn brif gymhelliant i ddiwygio addysg.
Rydym wedi ymrwymo i ddwy egwyddor sef:
- tegwch mynediad at ddarpariaeth, a
- darpariaeth sydd o’r ansawdd gorau.
Rydym yn canolbwyntio ar alluogi arwain dysgu. Byddwn yn gwneud hyn drwy ymgorffori ein gwerthoedd ym mhopeth a wnawn.