Dydd Gwener 8 Rhagfyr 10yb-12:30yp
Dydd Gwener 19 Ionawr 10yb-12:30yp
Wyneb yn Wyneb mewn lleoliadau Rhanbarthol
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad yr adnodd Arweinyddiaeth Strategol Addysgeg. Mae’r adnodd hwn wedi’i ddatblygu gan arweinwyr ar gyfer arweinwyr ac mae wedi’i gynllunio i gefnogi penderfyniadau arweinyddiaeth a sgyrsiau ar sut mae ein dealltwriaeth o ymarfer addysgeg yn newid mewn perthynas â Chwricwlwm i Gymru.
Mae’r digwyddiad wedi’i gynllunio ar gyfer Uwch Arweinwyr Dysgu ac Addysgu sy’n ceisio cynnal momentwm a chydweithio i ddatblygu addysgeg a dilyniant sy’n cefnogi’r pedwar diben craidd, y sgiliau annatod ac effeithiolrwydd dysgwyr, trwy arweinyddiaeth strategol addysgeg.
Mae’r digwyddiadau yn gydweithrediad rhwng yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ac Arweinwyr Addysgeg y Consortia Rhanbarthol ac mae wedi’i gynllunio fel digwyddiad lloeren lle bydd sgwrs feirniadol ranbarthol yn digwydd ar yr un pryd ledled Cymru.
Cofrestru yn hanfodol – Bydd angen i bob cynrychiolydd gofrestru i’r lleoliad rhanbarthol sydd fwyaf priodol iddynt.
Lleoliadau:
Ynys Môn / Gwynedd (cyfrwng Cymraeg)
Penrallt, Caernarfon, Gwynedd LL55 1BN
Conwy / Sir Ddinbych
Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn LL29 8BY
Wrecsam / Sir y Fflint (cyfrwng Saesneg)
Tŷ Linden, Parc Busnes yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug CH7 1XP
Partneriaeth
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Lleoliadau – Dydd Gwener 19 Ionawr 10am-12:30pm:
Partneriaeth Canolbarth Cymru
Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod LD1 9ZX