English | Cymraeg
Arwain o'r Canol: Arweinwyr Canol yng Nghymru

Arwain o’r Canol: Arweinwyr Canol yng Nghymru

Dyddiad ac Amser

Dydd Iau 30 Mawrth 9yb-2:45yp

Arwain o’r Canol: Arweinwyr Canol yng Nghymru

Cynhadledd Arweinwyr Canol yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol

Dydd Iau 30 Mawrth 9yb-2:45yp

Ymunwch â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar gyfer ei hail gynhadledd Arweinwyr Canol ar-lein ar ddydd Iau 30 Mawrth 9yb-2:45yp. Yn cynnwys siaradwyr gwadd fel Roy Leighton (Cyfarwyddwr Sefydlu Positive Peace Cambridge ac Uwch Gydymaith Independent Thinking Ltd), yr Athro Alma Harris PhD, FAcSS, FLSW, FRSA (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd) a Kevin Palmer (Llywodraeth Cymru).

Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys lleisiau o’r sector addysg – Rachel Simmonds (Cyngor Conwy), Matthew O’Brien (Ysgol Gynradd Gellifedw), Bryony Evett-Hackett (Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion), Jenny Davies (Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd) ac Owain Jones (Ysgol Gyfun Aberaeron).

Bydd y gynhadledd yn archwilio rôl arweinyddiaeth ganol ac mae’n agored i bob arweinydd canol ac uwch o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector AHO.

Am ddim, agored i bawb, mae archebu’n hanfodol.

Dogfennau Cysylltiedig

Dadlwythiadau

Rhaglen y Gynhadledd