Dydd Mercher 21 Mehefin 10yb-4yp
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (Y Coldra, Catsash Road, Casnewydd, Cymru, NP18 1HQ)
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein cynhadledd wyneb yn wyneb cyntaf Arwain Cwricwlwm i Gymru ar 21 Mehefin 10yb-4yp.
Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector AHO a bydd yn archwilio dilyniant.
Mae’r digwyddiad yn cynnwys sesiynau gyda’r Athro Mick Waters a Dr Georgina Haarhoff, Dirprwy Gyfarwyddwr Cwricwlwm ac Asesu (Llywodraeth Cymru), a gweithdai gyda’r Athro Andy Penaluna, Jessica Leigh-Jones MBE (iungo Solutions) a Kate Williams (Caterpillar Business Psychologists).
Bydd ymarferwyr ar draws y sectorau hefyd yn rhannu eu profiadau o arwain y cwricwlwm.
Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol.