Skip to main content
English | Cymraeg
Datgloi Arweinyddiaeth: Owen Evans

Datgloi Arweinyddiaeth: Owen Evans

 

Dyddiad ac Amser

Dydd Iau 16 Mai 9:30-11:30yb

Datgloi Arweinyddiaeth: Owen Evans

Dydd Iau 16 Mai
9:30-11:30yb

Bydd Owen Evans, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (Estyn), yn cyflwyno gweminar Datgloi Arweinyddiaeth nesaf yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol.

Bydd Owen yn rhannu ei daith arweinyddiaeth ei hun a gwersi arweinyddiaeth bersonol yn y weminar hon, tra hefyd yn archwilio’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod arolygiadau ESTYN am arweinyddiaeth effeithiol mewn lleoliadau addysgol yng Nghymru.

Mae Datgloi Arweinyddiaeth yn gyfres o weminarau dysgu proffesiynol, sy’n archwilio arweinyddiaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’r gweminarau wedi’u cynllunio ar gyfer y rheini mewn rolau arweinyddiaeth uwch o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) a’u nod yw cefnogi eu meddwl a’u hymarfer.

Mae’r gweminar hwn yn darparu dysgu proffesiynol ysbrydoledig o ansawdd uchel sy’n ddiddorol, yn ysgogol ac yn gynhwysol. Bydd y gweminar yn cynnwys cyfle i drafod a rhannu syniadau mewn ystafelloedd grŵp gydag arweinwyr o bob rhan o Gymru.

Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol

Y siaradwr:
Owen Evans

Mae Owen Evans yn gyfrifol am arolygu addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn ogystal â rheolaeth, staffio a threfniadaeth Estyn. Mae’n rhoi cyngor annibynnol i Weinidogion Cymru, sy’n cyfrannu at ddatblygu ac adolygu polisïau yng Nghymru. Yn ogystal, mae Owen yn chwarae rôl allweddol yn gweithio’n agos gyda chyrff arolygu, archwilio a rheoleiddio eraill yng Nghymru, i roi sylfaen i gynllunio a gweithio ar y cyd. Yn ogystal, fel Swyddog Cyfrifyddu Estyn, mae’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n briodol a’u bod yn rhoi gwerth am arian. Yn ogystal, mae’r Prif Arolygydd yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar safonau ac ansawdd addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Cafodd Owen, sy’n Gymro Cymraeg, ei addysg yn Ysgol Penweddig a Choleg Ceredigion, Aberystwyth cyn graddio mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Ymunodd Owen ag Estyn o’i swydd fel Prif Weithredwr S4C, y darlledwr Cymraeg. Cyn ymuno ag S4C, roedd yn Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhwng 2008 a 2010, roedd yn gyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned Cymru, ac am 10 mlynedd cyn hynny bu’n gweithio i BT, gan gynnwys fel aelod o dîm y DU yn datblygu strategaeth band eang BT. Mae wedi gwasanaethu fel aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Datblygu Addysg Caerdydd.