Dydd Iau 29 Medi 4:15-5:15pm
Caiff arfer proffesiynol ei lywio gan ymchwil ac mae ymholi proffesiynol yn arf defnyddiol i addysgwyr ac arweinwyr. Gall y cyfuniad o ymchwil a gwaith ymarfer dyddiol sy’n seiliedig ar ymholi gan addysgwyr ychwanegu’n sylweddol at ddatblygiad diwylliant dysgu proffesiynol. Mae diwylliant o’r fath yn defnyddio tystiolaeth i lywio cynllunio ac yn ymgorffori dysgu mewn arferion addysg.
Ymunwch â’n Blether Rhyngwladol a chlywed gan chwe arweinydd o bob rhan o Iwerddon, yr Alban a Chymru wrth iddynt rannu eu syniadau a’u profiadau o ddefnyddio ymchwil ac ymholi i lywio eu hymarfer a’u dysgu proffesiynol. Mae’r digwyddiad Blether Rhyngwladol hwn ar agor i holl addysgwyr ac arweinwyr y tair gwlad.
Cydweithrediad Tair Gwlad rhwng y Ganolfan Arweinyddiaeth Ysgolion, Iwerddon, Addysg yr Alban a’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru.
Am ddim, rhaid cadw lle