Mae ARLOESEDD+ wedi’i gynllunio ar gyfer uwch arweinwyr addysgol ledled Cymru. Mae diwygio addysg yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru ac mae unigolion ym mhob sector ac ar bob lefel wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant ledled y system ac fel y pwysleisiodd Till Leopold, arweinydd addysg Fforwm Economaidd y Byd, mae dod o hyd i ddatrysiad creadigol sy’n seiliedig ar dîm yn ‘rhaid ei gael’ mewn addysg.
Datblygwyd y sesiynau hyn yn unol â’r sgiliau sy’n rhan annatod o’r Pedwar Pwrpas, a chaiff eu cyflwyno gan ddau arloeswr profiadol, yr Athro Andy Penaluna a Jessica Leigh Jones MBE. Byddant yn rhannu eu meddylfryd eu hunain, ac yn ceisio helpu arweinwyr i symud y tu hwnt i edrych yn ôl tuag at ddatblygu eu mewnwelediadau arloesol eu hunain.
Bydd y tair sesiwn yn cael eu cyflwyno ar-lein ac wyneb yn wyneb ac yn canolbwyntio ar y themâu canlynol:
Dydd Iau 9 Mawrth 9:30-11:30yb – Ar-lein
Datblygu rhwydweithio a meddylfryd
Dydd Iau 16 Mawrth 10yb-4yp – Gwesty a Sba Metropole, Stryd Temple, Llandrindod, LD1 5DY
Gweithredu a chefnogi dysgu drwy werthuso dilyniant
Dydd Iau 23 Mawrth 9:30-11:30yb – Ar-Lein
Creu gwerth
Bydd pob sesiwn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a thechnegau dysgu gan gynnwys ystafelloedd ymneilltuo. Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i gynnal arbrofion rhyngblethol megis cynnal darn o ymchwil y tu hwnt i’w sefydliad, gan gychwyn sgwrs feirniadol, neu ddod o hyd i erthygl/fideo sy’n ysgogi meddwl pellach.
Am ddim, yn agored i bob arweinydd o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector PCET, lleoedd sy’n gyfyngedig i un i bob sefydliad.
Mae cofrestru yn fynegiant o ddiddordeb mewn mynychu’r Gyfres Arloesi. Os yw eich mynegiad o ddiddordeb yn llwyddiannus, byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau eich lle erbyn dydd Gwener 17 Chwefror.
Ebostiwch charlotte.thomas@agaa.cymru i gyflwyno eich mynegiadau o ddiddordeb. Dyddiad cau 14 Chwefror.
Wedi’i hyfforddi fel dylunydd i ddefnyddio meddwl creadigol i ddatrys problemau pobl eraill, arweiniodd Andy y diweddariad cwricwlwm arloesi ar gyfer rhaglen Empretec y Cenhedloedd Unedig. Roedd Andy yn aelod o’r tîm sefydlol a ddatblygodd Fframwaith EntreComp Canolfan Ymchwil ar y Cyd yr UE, a ddefnyddir bellach i ddatblygu arloeswyr mewn dros 50 o wledydd. Mae hefyd wedi cynrychioli entrepreneuriaid ac arloeswyr ym myd addysg yn Llywodraeth San Steffan droeon.
Mae Andy wedi gweithio ar bob lefel o addysg, o Ysgolion Cynradd i lefelau Ôl-Ddoethuriaeth. Yng Nghymru bu’n arweinydd academaidd ar gyfer datblygu ‘Sgiliau yn Rhan annatod i’r Pedwar Pwrpas’. Bu hefyd yn arwain datblygiad cwricwlwm ysgol Arloesi ac Entrepreneuriaeth Banc y Byd yng Ngogledd Macedonia, yn dilyn ei arweiniad mewn datblygiad addysgwyr mewn 7 o wledydd y Balcanau.
Mae cydnabyddiaeth o’i waith yn cynnwys cyflwyno Gwobr Queens oes am Hyrwyddo Menter, anrhydedd a gyflwynwyd arno gan y diweddar Frenhines Elizabeth yr Ail ym Mhalas Buckingham. Mae’r Sefydliad Menter ac Entrepreneuriaid a’r Maserati 100 Entrepreneurs hefyd wedi cydnabod Andy yn ffurfiol drwy Wobrau’r DU.
Mae Jessica Leigh Jones MBE yn beiriannydd ac entrepreneur sydd wedi ennill nifer o wobrau. Yn 2020, cyd-sefydlodd iungo, busnes technolegau creadigol sy’n gweithio gyda chleientiaid corfforaethol ac addysgol i drawsnewid eu syniadau yn brofiadau dysgu ymgolli ar gyfer dyfodol gwaith. Mae Jessica yn Athro Preswyl ar Ymweliad yn y Drindod Dewi Sant ac yn gyn Gadeirydd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru. Mae’n Is-gadeirydd CBAC ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol yn Lloegr. Ymddangosodd Jessica fel un o’r ieuengaf yn rhestr Forbes 30 o dan 30 Ewrop yn 2018.