Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050

Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050

Dyddiad, Amser a Lleoliad:

Dydd Mercher 1 Mai 2024 9yb-4yp

Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB

 

Bydd y gynhadledd hon drwy gyfrwng y Gymraeg, ond bydd cyfieithiad byw ar gael.

Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050

Dydd Mercher 1 Mai 2024 9yb-4yp

Venue Cymru, Promenâd, Llandudno, LL30 1BB

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi’r gynhadledd gyntaf o’i math gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, ‘Arwain yn y Gymraeg: Y Daith i 2050’.

Mae’r gynhadledd wedi’i chynllunio ar gyfer penaethiaid ac uwch arweinwyr o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol. Bydd y gynhadledd yn cynnig cyfle i arweinwyr addysgol o bob lleoliad ddathlu eu llwyddiannau wrth ddatblygu’r Gymraeg yn eu sefydliadau ac archwilio’r camau nesaf i wireddu’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn cynnwys:

  • Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin
  • Dr Myfanwy Jones, Cyfarwyddwr, Mentrau Iaith
  • Angharad Lloyd Beynon, Rheolwr Polisi, Rhanddeiliaid a Phartneriaethau (Cenhedloedd), Grŵp City and Guilds
  • Catrin Davis, Pennaeth Prentisiaethau, Urdd Gobaith Cymru
  • Yr Athro Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth

Rhad ac am ddim, cofrestru’n hanfodol.