14 a 28 Chwefror 11am, 7 Mawrth 2pm, 21 Mawrth 11am
Ymunwch â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ar gyfer ein gofod cyfarfod newydd ar-lein ‘Pen-i-ben ADY’. Archwiliwch, trafodwch a rhannwch eich profiadau o newidiadau i ddarpariaeth ADY yng Nghymru a sut mae’r rhain yn effeithio ar arweinyddiaeth ysgolion.
Cewch gwrdd ag uwch arweinwyr eraill mewn grwpiau cyfrinachol bach am 45 munud gan ymchwilio i themâu fel ADY mewn Ysgolion Bach a Gwledig, ADY ac effaith Covid-19, Datgloi Potensial ein Hysgolion Arbennig, ymysg eraill.
I gael y ddolen, e-bostiwch Charlotte Thomas ar charlotte.thomas@agaa.cymru.
Themau:
Os oes gennych unrhyw themâu neu bynciau yr hoffech i ni eu harchwilio mewn sesiynau yn y dyfodol, rhowch wybod i ni.