Datgloi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw ein cyfres weminar newydd, sy’n ysgogi meddwl a thrafod ar arweinyddiaeth strategol a gweithredu diwygiad ADY yng Nghymru. Wedi’u hysbrydoli gan ein gweminarau poblogaidd Datgloi Arweinyddiaeth, bydd y digwyddiadau dysgu proffesiynol hyn yn archwilio arweinyddiaeth a newidiadau i ddarpariaeth ADY yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Ei nod yw cefnogi arweinwyr ar eu taith ADY. Bydd pob gweminar yn cael ei harwain gan siaradwr gwadd nodedig.
Bydd yr ail weminar yn cynnwys David Bartram OBE, Cyfarwyddwr Prescient Education Limited.
Gynorthwyydd addysgu, athro hanes ac uwch arweinydd, mae David wedi arwain darpariaeth anghenion addysgol arbennig a darpariaeth anabledd (SEND) yn ysgolion Llundain ers dros 15 mlynedd. Mae’n aelod o grŵp llywio Adolygiad SEND yr Adran Addysg a bu’n ymgynghorydd arbenigol i Adolygiad Timpson ar waharddiadau ysgol. Mae David wedi gweithio’n uniongyrchol gyda thros bum cant o dimau arwain ysgolion ledled y DU i wella eu darpariaeth i ddisgyblion bregus.
David yw awdur y SEND Review Guide, fframwaith cenedlaethol a ariennir gan yr Adran Addysgol sydd wedi’i lawr lwytho gan dros 5000 o ysgolion. Yn 2018 golygodd Great Expectations, Leading an Effective SEND Strategy in School, a gyhoeddwyd gan John Catt Educational. Bu’n Gyfarwyddwr SEND yn Strategaeth Arweinyddiaeth Llundain ac yn ymgynghorydd i dîm addysg Maer Llundain. Mae David yn ymgynghorydd i’r Cyngor Prydeinig ac fel rhan o’r gwaith hwn mae wedi cefnogi datblygu polisi SEND mewn nifer o wledydd gan gynnwys Ethiopia, Seychelles, Gwlad Thai a Malaysia. Mae David hefyd yn ymddiriedolwr Sefydliad KPMG, sy’n ceisio sicrhau newid systemig mewn busnes a chymdeithas a datgloi potensial y plant mwyaf difreintiedig yn y DU.
Mae’r gweminarau wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai mewn rolau uwch arweinyddiaeth o ysgolion, y sector gwaith ieuenctid a’r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol a’u nod yw eu cefnogi yn eu rolau fel arweinwyr system.
Wedi’i chyflwyno’n ddigidol drwy Zoom mae’r gyfres hon ar y we yn darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel ac ysbrydoledig, sy’n ymgysylltu, ysgogol, cydweithredol, cynhwysol a chyfartal i bawb. Bydd pob gweminar yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a thechnegau dysgu er enghraifft ystafelloedd trafod, sesiwn cwestiyn ac ateb, mynediad at ddeunyddiau darllen ac adnoddau ychwanegol.
Am ddim, cofrestru’n hanfodol