Skip to main content
English | Cymraeg
Arwain Dysgu Proffesiynol Header

Mae dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol…

Wedi’i gynllunio i alluogi dulliau arloesol o ddysgu ac addysgeg

Mae angen meysydd arbenigedd ym mhob pwynt yn system yr ysgol. Gall hyn gynnwys gweithio mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, addysgu disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, darparu gwybodaeth pwnc a sgiliau i ddysgwyr hŷn neu arwain a rheoli timau ar bob lefel. Mae galluogi cymorth dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar y meysydd hyn yn rhan hanfodol o gyfrifoldebau arweinwyr.

Chwilir am gyfleoedd i gefnogi datblygiad gwybodaeth addysgegol, cynllunio’r cwricwlwm, gwybodaeth pwnc a dulliau asesu o fewn a thu allan yr ysgol.

Mae dysgu proffesiynol o’r fath wedi’i gynllunio a heb ei gynllunio, yn ffurfiol ac anffurfiol (Evans, 2019). Mae’n barhaus ac yn para gydol gyrfa (GTC Scotland, 2012). O safbwynt lles, mae’n bwysig bod arweinwyr yn creu lle i’w hunain a chydweithwyr atgyfnerthu beth sydd wedi’i ddysgu yn hytrach na chwilio am dystiolaeth o newid yn barhaus (Jones, 2020). Mae hyn yn anodd ar adegau pan fydd yna newid radical yn digwydd yn y system pan fydd gwerth “beth oedd yn digwydd cynt” yn cael ei gwestiynu.

Fodd bynnag, mae arweinwyr yn symud ymlaen o atgyfnerthu parhaus ar adegau o newid cyflym ac yn nodi cyfleoedd ar gyfer dulliau addysgu a dysgu newydd. Mae hyn yn gofyn am fathau trawsnewidiol yn hytrach na throsglwyddol o ddysgu proffesiynol (Kennedy, 2005; 2014) a gall darfu ar brosesau presennol. Mae arweinwyr yn ymwybodol o’r gwahaniaethau hyn ac yn ystyried pa mor gydnaws yw’r newid â gwerthoedd craidd yr ysgol ac effaith debygol newid sy’n deillio o ddysgu proffesiynol trawsnewidiol.

Yng nghyd-destun y diwygiadau parhaus i’r cwricwlwm yng Nghymru, mae ymarferwyr yn ehangu eu sgiliau addysgegol ac asesu (Harris, Jones a Crick, 2020; OECD 2018) ac mae arweinwyr ysgolion yn cefnogi hyn gyda ffocws arbennig ar archwilio sut y gellid defnyddio dysgu proffesiynol i gysylltu datblygiad addysgeg a’r cwricwlwm fel ffordd o feithrin cydlyniant.

Jones, K. (2022)

Cyfres Mewnwelediad: Arwain Dysgu Proffesiynol (2022)

Evans, L (2019)

Implicit and informal professional development: what it ‘looks like’, how it occurs, and why we need to research it, Professional Development in Education, 45:1, 3-16

GTC Scotland (2012)

The Standard for Career-Long Professional Learning: supporting the development of teacher professional learning

Harris, A. et al (2020)

“Curriculum leadership: a critical contributor to school and system improvement.” School Leadership & Management 40:1-4

Jones, K (2020)

Multi-dimensional professional learning: a leadership perspective European Educational Research Association

Kennedy, A. (2005)

Models of Continuing Professional Development: a framework for analysis, Journal of In-Service Education, 31:2, 235-250

Kennedy, A. (2014)

Understanding continuing professional development: the need for theory to impact on policy and practice, Professional Development in Education, 40:5, 688-697

OECD (2018)

Datblygu Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu yng Nghymru

Gwneud y Cysylltiad

Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu

Datblygu a chefnogi cyfleoedd dysgu parhaus i’r holl staff

Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth

Dysgu Proffesiynol (rolau arweinyddiaeth proffesiynol) I Arloesedd (rolau arweinyddiaeth ffurfiol)

Taith Dysgu Proffesiynol

Sefydlu diwylliant o newid ac arloesi

Taith Dysgu Proffesiynol

Gweithredu’r cwricwlwm a datblygiadau pellach

Cael Eich Ysbrydoli

Gofynnwyd i arweinwyr ysgolion ledled Cymru ddweud wrthym sut maen nhw’n Arwain Dysgu Proffesiynol, gan ddefnyddio pob un o’r wyth dilysnod dysgu proffesiynol dan arweiniad effeithiol fel man cychwyn. Mae’r astudiaethau achos sy’n deillio o hynny’n cynnig cipolwg ar bob math o ddulliau effeithiol o Arwain Dysgu Proffesiynol a fydd, gobeithio, yn dod â’r dilysnodau’n fyw ac yn ysbrydoli ffyrdd strategol newydd a ffres o feddwl i arweinwyr eraill yng Nghymru. Rydym am i chi Gael Eich Ysbrydoli.

Darllenwch yr astudiaethau achos

 

Ymunwch

Os oes gan eich ysgol neu glwstwr enghraifft o ymarfer y gellid ei gynnwys yn yr adnodd Arwain Dysgu Proffesiynol – o dan un (neu fwy) o wyth dilysnod dysgu proffesiynol gydag arweiniad da, rydym am glywed gennych chi.

Cysylltwch â ni