Skip to main content
English | Cymraeg

LPL GreenYsgol Pen Rhos

Yn canolbwyntio ar gefnogi pob dysgwr ac yn ystyried lles
Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd dwy ffrwd yn Llanelli yw Ysgol Pen Rhos. Mae bron i 500 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar gofrestr Pen Rhos, gan gynnwys 60 sy’n mynychu meithrinfa Dechrau’n Deg yr ysgol yn rhan-amser. Mae dros 70 aelod o staff yn yr ysgol.

Ysgol Pen Rhos External

Dull a ddilynwyd

Mae Ysgol Pen Rhos wedi datblygu dull pwrpasol sy’n canolbwyntio ar y teulu yn y gymuned a wasanaethir ganddi. Maen nhw’n teimlo bod elfen berthynol/emosiynol hollbwysig i’w gwaith fel ysgol. Rhaid iddyn nhw weithredu gyda’r egwyddorion a’r sensitifrwydd hyn mewn golwg. Maen nhw’n rhedeg mentrau newydd sy’n seiliedig ar ymchwil ac arfer gorau.

Mae’r gymuned a wasanaethir gan Ysgol Pen Rhos ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim bron ddwywaith cyfartaledd Cymru. Mae gan nifer anghymesur o uchel o ddisgyblion (dros 40%) anghenion addysgol arbennig, ac mae llawer yn wynebu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan arwain at anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

O ystyried demograffeg yr ysgol, mae Pen Rhos yn defnyddio dull ‘gwybodus am drawma’ ysgol gyfan o gefnogi lles, dilyniant a chyrhaeddiad disgyblion. Mae’r holl staff (gan gynnwys staff arlwyo a gweinyddol) yn Ysgol Pen Rhos wedi cael hyfforddiant mewn ymarfer sydd wedi’i lywio gan wybodaeth am ymlyniad a thrawma, ac mae athrawon dethol a chynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU) wedi’u hyfforddi i ddarparu ymyriadau arbenigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth fel ‘grwpiau lles’, ‘therapi tynnu llun a siarad’, ‘therapi celf’ a chwnsela mewn profedigaeth. Drwy sicrhau bod y sgiliau hyn gan staff, gall Ysgol Pen Rhos ymateb yn gyflym i anghenion disgyblion unigol ac mae’n llai dibynnol ar wasanaethau allanol. Mae’n fodel pwrpasol i’n hysgol a’i hanghenion.

Mae’r ysgol yn gwneud cryn ymdrech i ymgysylltu â rhieni a gofalwyr, er mwyn eu hannog i gymryd diddordeb yn addysg eu plant a deall yn well yr heriau sy’n eu hwynebu nhw a’u plant. Mae uwch arweinwyr yn awyddus hefyd i sefydlu’r ysgol fel adnodd cymunedol sy’n cefnogi rhieni, yn hyrwyddo dysgu teuluol ac yn helpu i feithrin gwydnwch yn y gymuned. Cyn y pandemig COVID-19, roedd yr ysgol ar agor ar ddydd Sul i ddarparu man addoli ar gyfer cymuned eglwysig, a’r bwriad oedd cynnig cymorth i deuluoedd gymryd rhan mewn cwricwlwm teuluol gyda chefnogaeth y gymuned eglwysig hon bob wythnos.

Mae Ysgol Pen Rhos yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n cefnogi plant a theuluoedd, gan gynnwys, er enghraifft, Dechrau’n Deg, Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Caerfyrddin (CYCA), Llywodraeth Cymru, sefydliadau addysg bellach, amrywiaeth o arbenigwyr iechyd, arbenigwyr chwaraeon, a thîm gwasanaethau cymdeithasol y sir. Mae’r ysgol yn ymdrechu i ddatblygu’r partneriaethau hyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae’r pennaeth wedi ymweld ag ysgolion yn Efrog Newydd, Cincinnati a San Francisco er mwyn dysgu sut i lywio’r dull gweithredu yn Ysgol Pen Rhos. Mae enghreifftiau’n cynnwys defnyddio ysgolion fel adnoddau cymunedol ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben. Hyrwyddo gweithwyr iechyd proffesiynol i fynd allan o’r ysgol a chynnig lle yn yr ysgol i dimau iechyd eraill hyrwyddo eu gwaith yn y gymuned. Yn fwy diweddar mae’r ysgol wrth wraidd trawsnewid a newid yn yr ardal.

Er enghraifft, mae’r plant wrthi’n cyflwyno eu hunain fel rhanddeiliaid pwysig wrth ddatblygu mannau gwyrdd ym  Mhentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Pentre Awel. Mae’r ysgol wedi cael man gwyrdd i’w ddatblygu fel adnodd gwyrdd cymunedol ar gyfer yr ysgol a’r rhieni. Hefyd, mae ganddyn nhw bartneriaeth strategol gyda Choleg Gwyddorau Bywyd a Biofeddygol Prifysgol Caerdydd lle mae ganddynt Brosiect Ffarma-wenyn yn yr ysgol gyda chychod gwenyn wedi’u lleoli ar y safle a choridor gwenyn yn yr ardal. Y prif sbardun ar gyfer y prosiect hwn yw hyrwyddo lles tîm yr ysgol, athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu sydd wedi’u hyfforddi i gadw gwenyn, sef 28 o aelodau staff hyd yma. Mae cyhoeddiadau sylweddol ar gadw gwenyn fel strategaeth i hyrwyddo lles mewn sefydliadau. Mae Ysgol Pen Rhos am sicrhau bod yr adnodd hwn ar gael i rieni a’u lles hefyd fel rhan o bresgripsiynu gwyrdd yn yr ardal.

Ysgol Pen Rhos Bee Keeping Ysgol Pen Rhos Bee Keeping Ysgol Pen Rhos Bee Keeping

“Mae arweinwyr yn rhoi ffocws cryf iawn ar gyfleoedd datblygiad proffesiynol ac mae’r ysgol yn datblygu’n gymuned ddysgu lwyddiannus iawn. Er enghraifft, mae staff yn elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol am les disgyblion. O ganlyniad, caiff hyn effaith helaeth a chadarnhaol ar les disgyblion a’u profiadau dysgu yn yr ysgol. Caiff staff gyfleoedd pwrpasol i rannu arfer yn yr ysgol ac maent yn ymweld ag ysgolion eraill sydd wedi’u cydnabod am eu harferion cryf mewn meysydd penodol. Mae arweinwyr wedi sicrhau bod yr ysgol wedi datblygu’n sefydliad dysgu bywiog a rhagweithiol” – Estyn 2019

Pob Astudiaethau Achos