Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Garth Olwg

LPL GreenYsgol Garth Olwg

Wedi’i gynllunio i alluogi dulliau arloesol o ddysgu ac addysgeg

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Garth Olwg yn ysgol cyfrwng Cymraeg 3-19 oed sy’n gwasanaethu ardal Pontypridd. Lleolir yr ysgol ar gampws Garth Olwg ac mae 1,250 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol.

 

Dull a ddilynwyd

Rydym wedi datblygu strategaethau ledled yr ysgol i bersonoli dysgu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn bennaf mewn ymateb i’r Cod Ymarfer ADY newydd. Rydym wedi rhannu’r strategaeth hon gydag ysgolion eraill ar draws rhwydwaith CYDAG (Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg) hefyd.

Mae gennym fodel Dysgu ac Addysgu o dan bennawd “Dysgu wedi’i Bersonoli” sydd wedi’i rannu’n bedwar is-bennawd: Asesiad, Adborth ac Ymateb i Adborth; Strategaethau Dysgu ac Addysgu; Ysgol sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn; Partneriaethau y Tu Hwnt i’r Ystafell Ddosbarth. Rhan allweddol o’r model yw sut mae’ r ysgol wedi’i weithredu i gyflwyno’r Cod Ymarfer ADY.

Pan agorodd yr ysgol yn 2019, gan gyfuno arferion da’r ysgol gynradd ac uwchradd, cyflwynwyd nifer o strategaethau ysgol gyfan a fyddai’n helpu plant ag anghenion dysgu ychwanegol e.e. cardiau nawr a nesaf, llawlyfr ADY. Yn ogystal, ychwanegwyd ymyriadau ar gyfer disgyblion oedran uwchradd, i gysoni’r ymyriadau ledled yr ysgol. Un o’r rhai allweddol oedd “Language Link”, sy’n cydnabod anawsterau deall iaith – mae hyn wedi cael effaith fawr ar rifedd a llythrennedd ac felly mae’r ymyriad yn hollbwysig. Fel rhan o’r strategaeth, cynhaliwyd boreau coffi i rieni hefyd er mwyn rhannu’r wybodaeth a’r strategaethau gyda nhw.

Yn dilyn hyn, cyflwynwyd mwy o strategaethau, gan gynnwys ymyriad hynod lwyddiannus – cyn ac ar ôl dysgu – cyfle i ddisgyblion gael mynediad ychwanegol at gynnwys gwersi. Gan ddefnyddio Teams (ar ôl y cyfnodau clo), gallai disgyblion adolygu cynnwys, geirfa a chysyniadau eu gwersi gydag aelod o staff cyn ac ar ôl y gwersi er mwyn efelychu’r dysgu a sicrhau dealltwriaeth gadarn.

Mae athrawon wedi dechrau recordio testunau darllen yn ddiweddar a rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddangos dealltwriaeth ar lafar (drwy recordio fideo neu sain) yn hytrach na rhoi mwy o bwyslais ar waith ysgrifenedig.

Fel rhan o’r Cod Ymarfer ADY, rydym yn ein trydedd flwyddyn o gyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn erbyn hyn, gyda’r holl staff yn mynychu o leiaf un flwyddyn. Mae pob disgybl ac aelod o staff wedi creu eu proffil un dudalen eu hunain hefyd, er mwyn gwella dealltwriaeth o’r proffil a’i ddiben.

Hefyd, fe wnaeth rhieni a disgyblion roi cyflwyniadau ar eu hanghenion a strategaethau oedd wedi’u helpu yn ystod tymor yr haf. Bu’n llwyddiannus dros ben o ran codi ymwybyddiaeth o wahanol anghenion.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn ceisio personoli’r dysgu ar gyfer holl ddisgyblion Garth Olwg. Rydym wedi bod yn rhannu arferion da drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus, bwletinau Dysgu ac Addysgu a “Spotlights” – cyfarfodydd rhannu arferion da. Rydym yn cael cyfnodau i hyrwyddo agweddau penodol ar y model Dysgu ac Addysgu megis “12 Diwrnod Llythrennedd” yn arwain at y Nadolig i hyrwyddo gweithgareddau Llais 21. Ar ben hynny, rydym yn annog staff i ymchwilio i agwedd ar y model fesul tri eleni a byddant yn adrodd yn ôl mewn Ffair Ymchwil ym mis Mehefin.

Mae’r cyfarfodydd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cyflwyniadau rhieni a’r proffiliau un dudalen wedi cynyddu dealltwriaeth staff o anghenion disgyblion. Mae hyn wedi golygu eu bod yn gallu addasu eu dysgu’n fwy er mwyn gwneud y gorau o’u cynnydd. Mae monitro canlyniadau a holiaduron ar gyfer disgyblion a staff yn dangos bod y strategaethau ysgol gyfan wedi gwella cynnydd a lles disgyblion ag anawsterau drwy roi cymorth iddyn nhw heb dynnu gormod o sylw at eu hanghenion. Mae’r holl strategaethau wedi sbarduno diddordeb staff, a bellach mae llawer wedi mynychu hyfforddiant ar agwedd ar ADY ers dechrau’r flwyddyn.

Pob Astudiaethau Achos