Ysgol Aberconwy

Ysgol Aberconwy

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg 11-18 cyfrwng Saesneg yng Nghonwy yw Ysgol Aberconwy. Mae 910 o ddisgyblion ar y gofrestr, gydag oddeutu 150 yn y chweched dosbarth.

 

Dull a gymerwyd

Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd pwyslais cynyddol ar werth cydweithio wrth ledaenu addysgeg effeithiol, o fewn ysgolion a rhwng ysgolion. Er bod aelodau unigol o staff Ysgol Aberconwy wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cydweithredol dros y blynyddoedd, roedd hynny’n tueddu i fod ar sail ad hoc, yn weddol arwynebol a heb fod yn gysylltiedig â chynlluniau dysgu proffesiynol penodol. Roedd arweinwyr yn yr ysgol yn cydnabod yr angen i gymryd ymagwedd fwy strwythuredig ac i annog ymarferwyr ar draws yr ysgol i gyfranogi mewn gweithgareddau cydweithredol.

Sicrhaodd Ysgol Aberconwy, ochr yn ochr â phedair ysgol uwchradd leol arall, gefnogaeth gan GwE (consortiwm rhanbarthol Gogledd Cymru) i fabwysiadu model Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yr Education Development Trust ar gyfer gwella ysgolion. Mae’r model Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yn ceisio meithrin galluedd arweinwyr ysgol ar wahanol lefelau i arwain adolygiadau trwyadl sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau a chymorth o ysgol i ysgol. Mae’r Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yn ei hanfod yn cynnwys tri chyfnod allweddol:

  • Hunanadolygu: maes ffocws penodol, dan arweiniad uwch-arweinydd yn yr ysgol dan sylw
  • Adolygiad gan gymheiriaid: yn adeiladu ar yr hunanwerthuso, ac wedi’i arwain gan uwch-arweinydd o ysgol arall o fewn y clwstwr, ond hefyd yn cynnwys arweinwyr o bob ysgol yn y broses o adolygu arfer ac archwilio opsiynau posibl ar gyfer gwella
  • Cymorth o ysgol i ysgol: yn cynnwys dau arweinydd canol o ysgolion eraill yn gweithredu fel hwyluswyr gwella[1] sy’n gyfrifol am ddyfeisio a hwyluso gweithdai yn canolbwyntio ar welliannau a sicrhau ymrwymiad staff i weithredu yn yr ysgol dan sylw.

Roedd Ysgol Aberconwy yn destun adolygiad Rhaglen Partneriaeth Ysgolion a oedd yn canolbwyntio ar ddatblygu cwricwlwm newydd yn seiliedig ar brosiectau ar gyfer blwyddyn 7.

Ysgol Aberconwy Ysgol Aberconwy

Arweinwyr yn modelu ac yn hyrwyddo deialog broffesiynol

Hyd yn oed cyn cychwyn ar y Rhaglen Partneriaeth Ysgolion, roedd penaethiaid yr ysgolion a oedd yn rhan o’r clwstwr yn mwynhau ‘ffordd agored o gydweithio’. Sail y natur agored hon oedd parch y penaethiaid at ei gilydd, cydnabyddiaeth bod gan bob ysgol ei chryfderau a’i meysydd i’w gwella ac yn ogystal, diffyg cystadleuaeth faterol (ar gyfer disgyblion ac adnoddau) rhwng y pum ysgol. Roedd y penaethiaid yn awyddus i ymestyn y math o ddeialog broffesiynol roeddwn nhw’n ei mwynhau ar draws hierarchaethau eu hysgolion, ac roedd y model Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yn cynnig fframwaith ar gyfer gwneud hyn mewn ffordd strwythuredig a phwrpasol.

Cyfranogodd uwch-arweinwyr o bob ysgol mewn hyfforddiant wedi’i ddarparu gan yr Education Development Trust a’i hwyluso gan GwE: roedd hyn yn caniatáu iddyn nhw fynd i’r afael â’r model Rhaglen Partneriaeth Ysgolion a’i egwyddorion sylfaenol, a llunio gweledigaeth gyffredin o sut y byddai’r model yn cael ei ddefnyddio gan y clwstwr. Roedd hefyd yn eu harfogi gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i hyrwyddo’r model Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yn eu hysgolion.

Er i un ysgol gael ei henwebu i ‘gydlynu’ gweithgareddau’r Rhaglen Partneriaeth Ysgolion, nid oedd yn cael ei hystyried yn ‘ysgol arweiniol’ gyda’r disgwyliad i eraill ei dilyn. Roedd arweinwyr yn glir y byddai’r Rhaglen Partneriaeth Ysgolion yn gydymdrech er budd pawb, gan ddefnyddio perthynas lorweddol rhwng cymheiriaid i gynnig her adeiladol a chefnogaeth gyfatebol.

 

Arweinwyr yn sicrhau eglurder ynghylch ffocws/diben cydweithredu

Trafododd uwch-arweinwyr feysydd posibl i’w hadolygu a chytunwyd bod cwricwlwm seiliedig ar brosiectau newydd blwyddyn 7 Ysgol Aberconwy yn faes a oedd yn deilwng o’i archwilio. Mae’r cwricwlwm sy’n seiliedig ar brosiectau yn cynrychioli rhan o ymateb yr ysgolion i ddiwygio’r cwricwlwm, a’i fwriad yw datblygu sgiliau allweddol disgyblion (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) ochr yn ochr â sgiliau bywyd ehangach fel creadigrwydd, datrys problemau a chydweithredu. Mae’n cynnwys disgyblion yn gweithio ar bum prosiect gwahanol yn ystod y flwyddyn[1], sy’n cyfuno cynnwys nifer o bynciau traddodiadol fel celf, y celfyddydau perfformio, daearyddiaeth a TGCh.

Roedd tua 20 aelod o staff ynghlwm wrth ddatblygu a gweithredu’r cwricwlwm seiliedig ar brosiectau, gan gynnwys pennaeth cynorthwyol, arweinydd canol, pum cydlynydd dysgu seiliedig ar brosiectau, nifer o athrawon ac un cynorthwyydd addysgu.

Arweiniwyd yr hunanadolygiad gan y pennaeth, ond gyda mewnbwn gan y pennaeth cynorthwyol yn arwain ar ddysgu seiliedig ar brosiectau a chydlynwyr dysgu seiliedig ar brosiectau.

Roedd y pennaeth yn briffio’r holl staff sy’n ymwneud â’r broses ddysgu seiliedig ar brosiectau ar y Rhaglen Partneriaeth Ysgolion, a rhannodd ddogfen ‘fframwaith’ gyda nhw yn amlinellu diben y model (beth yw a beth nad yw), disgrifio’r mathau o ymddygiadau a ddisgwylir gan y rhai sy’n rhan o’r broses a nodi beth fyddai’r broses adolygu yn ei gwmpasu.

Yn ogystal, siaradodd y pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol a oedd yn arwain ar y cwricwlwm sy’n seiliedig ar brosiectau â staff a oedd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol i sicrhau eu bod yn deall pam roedd yr adolygiad yn cael ei gynnal ac i hyrwyddo’r ymarferiad fel ‘cyfle i symud pethau ymlaen’. Y bwriad oedd sicrhau cefnogaeth y rhai a fyddai’n ymwneud â’r broses adolygu a herio amddiffynoldeb cynhenid ymhlith rhai aelodau o staff, a oedd wedi ei feithrin dros flynyddoedd o weithio mewn system a oedd yn cael ei gyrru’n hanesyddol gan ‘atebolrwydd’ ac ‘arolygu’.

Wedi dweud hyn, fodd bynnag, roedd y rhai a oedd yn ymwneud â datblygu’r cwricwlwm sy’n seiliedig ar brosiectau wedi gweithio gyda’i gilydd ers peth amser cyn mabwysiadu’r dull Rhaglen Partneriaeth Ysgolion. Roedd staff eisoes yn cydweithredu ar draws rhaniadau adrannol mewn ffordd nad yw’n hierarchaidd, gydag unigolion o wahanol lefelau o brofiad yn arwain ar wahanol agweddau ar y gwaith ac yn cyfrannu iddyn nhw[2]. Roedd y gwersi a ddysgwyd o archwiliadau addysgu a dysgu a theithiau cerdded dysgu a gynhaliwyd ar y cyd yn golygu bod y staff dan sylw yn cydnabod gwerth ‘edrych ar bethau’ o safbwynt newydd. Yn ei hanfod, roedd y dull Rhaglen Partneriaeth Ysgolion wedi ‘glanio mewn tir ffrwythlon iawn’.

 

Arweinwyr yn annog cydweithio o fewn a thu hwnt i’r ysgol

Arweiniwyd yr adolygiad gan gymheiriaid gan bennaeth ysgol arall, ac roedd yn cynnwys ymarferwyr o bob un o’r ysgolion o fewn y clwstwr mewn rhaglen o weithgareddau a oedd yn cynnwys arsylwadau gwersi a thrafodaethau gydag arweinwyr ac ymarferwyr yn Ysgol Aberconwy.

Yn dilyn yr adolygiad, gweithiodd dau hwylusydd gwella (arweinwyr canol o ysgolion eraill o fewn y clwstwr) gyda’r pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol a oedd yn arwain ar y cwricwlwm seiliedig ar brosiectau i gynllunio ‘gweithdy’ prynhawn ar gyfer staff perthnasol yn Ysgol Aberconwy. Roedd y gweithdy ar ffurf ‘trafodaeth ddatblygiadol’ (yn adeiladu ar ganfyddiadau’r adolygiad) i archwilio sut gallai’r ysgol symud ymlaen gyda dysgu seiliedig ar brosiectau a chytuno ar nifer o gamau i’w cymryd. Mae’r camau gweithredu a nodwyd yn cynnwys, er enghraifft:

  • Dileu un haen o hierarchaeth tîm y cwricwlwm sy’n seiliedig ar brosiectau a dynodi uwch-arweinydd fel un pwynt cyfeirio ar gyfer gwaith y tîm.
  • Cydweddu prosiectau’n agosach â’r cwricwlwm newydd (gan ganolbwyntio ar feysydd dysgu a phrofiad penodol).
  • Newid y broses asesu fel y byddai llai o bwyslais ar ysgrifennu estynedig mewn prosiectau.
  • Sefydlogi trefniadau staffio drwy addasu amserlenni.

Roedd y gweithdy’n cynrychioli profiad cyntaf y rhan fwyaf o staff o drafodaeth wedi’i hwyluso, ac yn archwilio sut gellid gwneud gwelliannau yn Ysgol Aberconwy. Roedd yr hwyluswyr yn cyfuno rhinweddau bod yn gredadwy ac yn ddiduedd: roedd ganddyn nhw brofiad o addysgu yn yr ystafell ddosbarth, roedden nhw’n deall sut mae ysgolion yn gweithio, roedden nhw’n gyfarwydd â diwygio’r cwricwlwm, ac roedden nhw o’r tu allan i gymuned yr ysgol. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu herio staff Ysgol Aberconwy mewn ffordd wybodus a thynnu sylw at faterion a allai fod wedi bod yn anodd mynd i’r afael â nhw fel arall. Y ddadl oedd y byddai’r hwyluswyr ‘yn gallu bwrw ymlaen… â’r pethau a oedd yn ein harafu ni… oherwydd eu bod nhw o’r tu allan ac wedi’u grymuso i wneud hynny’. Yn y bôn, roedd cyfranogiad yr hwyluswyr yn creu ymdeimlad bod y broses wella yn un ‘eithaf cyflym ac egnïol’.

 

Arweinwyr yn sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o gydweithio yn arwain at welliannau

Cafodd y camau a nodwyd yn ystod y gweithdy a hwyluswyd eu bwydo’n ôl i’r uwch-dîm arwain drwy’r pennaeth cynorthwyol a oedd yn arwain y broses, ac i’r corff ehangach o staff dan sylw drwy ddeiliad y swydd a thrwy’r pum cydlynydd.

Rhoddwyd rhai o’r camau y cytunwyd arnyn nhw ar waith bron ar unwaith, ond roedd cau’r ysgol yn wyneb y pandemig COVID-19 yn fuan ar ôl y gweithdy yn golygu na wnaeth pethau symud ymlaen yn y ffordd a ragwelwyd. Nid yw hynny’n golygu na weithredwyd ar gamau y cytunwyd arnyn nhw, dim ond iddi fod yn angenrheidiol bwrw ymlaen â phethau yng nghyd-destun newidiadau ehangach a orfodwyd ar yr ysgol e.e. newid i ddysgu o bell, mwy o ddefnydd o dechnoleg ac ad-drefnu amserlen yr ysgol.

Ers hynny, mae cyfnodau olynol o gyfyngiadau symud COVID-19 wedi golygu na fu’n bosibl myfyrio mewn unrhyw ffordd ystyrlon ar effeithiau’r newidiadau a wnaed na dysgu gwersi a allai arwain at welliannau yn y dyfodol. Cydnabuwyd, fodd bynnag, fod hwn yn faes i roi sylw iddo wrth i’r ysgol symud tuag at gyfnodau mwy normal.

Cyfeiriadau:
  1. Cyfeirir atyn nhw fel Hyrwyddwyr Gwella yn y Rhaglen Partneriaeth Ysgolion
  2. Mae hyn wedi cynyddu i wyth yn sgil cyfnodau clo cysylltiedig â COVID-19
  3. y. roedd agweddau ar arweinyddiaeth wasgaredig ar waith

Pob Astudiaethau Achos