Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Stanwell

LPL GreenYsgol Stanwell

Wedi’i wreiddio mewn gwella proffesiynol a gwella ysgolion

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Stanwell yn ysgol gyfun gydaddysgol cyfrwng Saesneg ar gyfer disgyblion 11-18 oed sydd â statws sylfaen. Mae tua 2,000 o ddisgyblion ar y gofrestr a thros 100 o aelodau o staff addysgu. Mae gan 10% o’u dysgwyr angen dysgu ychwanegol ac ychydig o dan 5% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae Stanwell yn Ysgol Ymholi Arweiniol (Arloeswr) ac yn cyfrannu at dwf y system drwy bartneriaethau effeithiol gyda’r Consortia Rhanbarthol a darparwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon.

 

Dull a ddilynwyd

Dros y 7 mlynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio i ddatblygu ac ymwreiddio diwylliant o ddysgu proffesiynol cynaliadwy o ansawdd uchel i’r holl staff gan gynnwys arweinwyr. Mae ein dull o ddysgu proffesiynol yn galluogi, yn rhyngweithiol, yn gydweithredol, yn cael ei lywio gan ymchwil ac yn seiliedig ar ymholi. Er bod ein dysgu proffesiynol ar sawl ffurf, mae’r holl staff yn deall egwyddorion a disgwyliadau ein cynnig dysgu proffesiynol a chaiff ei gymhwyso’n gyson. Rydym wedi gweithio i greu systemau a strwythurau hynod effeithiol sy’n cefnogi dull o ddysgu proffesiynol sy’n gynaliadwy ac yn hylaw ac sydd wedi’i wreiddio’n gadarn yn niwylliant a chalendr ein hysgol. Rydym yn gwerthuso ein cynnig dysgu proffesiynol yn gyson yn unol â blaenoriaethau gwella cenedlaethol a gwella ysgol ac yn gwerthuso darpariaeth dysgu proffesiynol i sicrhau bod y ffocws yn parhau ar addysgeg, ymholi, cydweithredu proffesiynol a diwygio cenedlaethol.

Rydym wedi sefydlu sesiynau dysgu proffesiynol wythnosol lle caiff staff eu rhyddhau o’u hymrwymiadau addysgu bob dydd Llun (mewn cylchoedd). Mae’r sesiynau hyn yn canolbwyntio’n ddi-baid ar addysgeg ac mae staff yn ymgysylltu ag ymchwil ac ymholi addysgol ac yn cymryd rhan er mwyn annog myfyrio ar ymarfer proffesiynol a gwella safonau yn y pen draw.

Hefyd, rydym wedi defnyddio’r sesiynau hyn i sicrhau bod pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant ar egwyddorion sylfaenol hyfforddi ac felly’n gallu hyfforddi ei gilydd drwy brosiectau ymholi a dylunio’r cwricwlwm. Defnyddiwyd Safonau Proffesiynol fel dull myfyriol ac rydym wedi treulio cryn amser yn canolbwyntio ar addysgeg  hefyd yn unol â’n dull ysgol ein hunain o ddysgu ac addysgu (rydym wedi datblygu iaith gyd-awduro). Hefyd, mae’r sesiynau hyn yn galluogi staff i gael dealltwriaeth ddofn a dwys o ddylunio’r cwricwlwm a diwygio cenedlaethol.

Stanwell School

Yn ogystal, caiff ein harweinwyr canol eu rhyddhau yn ystod tymor yr hydref i fynychu cwrs dysgu proffesiynol lle mae’r ffocws ar gynllunio’r cwricwlwm. Mae arweinwyr canol o bob Maes Dysgu a Phrofiad (AOLE) yn cydweithio mewn timau AOLE a chyda’n hymgynghorwyr cwricwlwm er mwyn cysylltu addysgeg ac ymarfer a chynllunio ein cwricwlwm ar gyfer 2022 yn y pen draw. Bydd yr un staff yn cael eu rhyddhau yn nhymor y gwanwyn i weithio gyda chydweithwyr cynradd lle mae’r ffocws ar ddeall cynllun a dilyniant y cwricwlwm. Mae dull strategol o ymdrin â HMS ysgol gyfan yn cefnogi ac yn rhannu’r diwrnodau dysgu proffesiynol wythnosol mewnol a dyddiau cynllunio’r cwricwlwm AOLE.

Yn ogystal, mae aelod o’n uwch dîm arwain yn hwyluso’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth Ganol (MLDP) ac yn gweithredu fel hyfforddwr ar gyfer y Rhaglen Datblygu Uwch Arweinwyr (SLDP) ynghyd â phartneriaethau ymarferwyr arweiniol gyda’r Consortia Rhanbarthol. Rydym yn hwyluso hyfforddiant ASPIRE ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) hefyd ac rydym yn ysgol ymarfer arweiniol gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rydym wedi ysgrifennu rhaglen bum wythnos bwrpasol o’r enw “Developing Teacher” sydd wedi’i hachredu gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac rydym yn ei chyflwyno i gynrychiolwyr mewnol ac allanol yn nhymor yr haf.

Rydym wedi cynyddu capasiti ein tîm dysgu ac addysgu er mwyn galluogi dull parhaus o ddysgu proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys creu Cydgysylltydd Partneriaethau a dwy rôl Ymarferydd Arweiniol. Goruchwylir y tîm hwn gan Uwch Bennaeth Cynorthwyol sy’n gyfrifol am ddysgu proffesiynol a dysgu ac addysgu.

Mae gweithgareddau monitro a gwerthuso’n dangos bod ein dull dysgu ac addysgu wedi’i gyd-awduro ynghyd â’n dull hyfforddi wedi gwella safonau yn yr ystafell ddosbarth a thrwy fabwysiadu dull anfeirniadol, datblygiadol o arsylwi ar wersi, gall athrawon fyfyrio ar eu hymarfer a’i gysylltu â ffocws ymholi penodol. Mae ymholiad i effaith ein dysgu proffesiynol wythnosol yn dangos…

  • Bod 97% o staff yn gweld y sesiynau’n ddefnyddiol o ran datblygu myfyrio ac ymarfer proffesiynol
  • Bod gan 94% o staff ddealltwriaeth o weledigaeth yr ysgol sy’n ymwneud â’r cwricwlwm newydd
  • Bod 95% o’r staff yn dweud eu bod yn teimlo’n hyderus gyda dull ymholi ac yn ddigon hyderus i gynnal prosiectau’n effeithiol er mwyn gwella ymarfer
  • Bod 96% o’r staff yn teimlo’n hyderus i gael sgwrs hyfforddi gyda chydweithiwr

Mae’r arolwg Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a gynhaliwyd fel rhan o’n sesiwn dysgu proffesiynol wythnosol yn dangos yr effaith ymhellach.Stanwell School SLO Overview

Pob Astudiaethau Achos