Skip to main content
English | Cymraeg
Canolfan Ragoriaeth OLEVI Gogledd Cymru

Canolfan Ragoriaeth OLEVI Gogledd Cymru

Partneriaeth rhwng Ysgol Dyffryn Conwy, Ysgol y Creuddyn ac Ysgol Glan Clwyd

Teitl y ddarpariaeth wedi’i chymeradwyo: OLE – Rhaglen Arweinyddiaeth Ragorol mewn Addysg

Dyddiad Cymeradwyo: Mehefin 2019

Manylion cyfredol y sefydliad: olevi@creuddyn.conwy.sch.uk @olevicymru

Mae Canolfan Ragoriaeth OLEVI wedi’i lleoli yn Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn ger Llandudno. Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Dyffryn Conwy ac wedi’i hachredu i ddarparu rhaglenni sydd wedi’u datblygu a’u cynhyrchu gan OLEVI International.

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Ragorol mewn Addysg OLEVI yn gwella arweinyddiaeth effeithiol drwy ddarparu fforwm a strwythur i ddatgelu anghenion ysgolion unigol, gan greu archwiliad proffesiynol sy’n adeiladu ar sgiliau i gefnogi a thyfu llwyddiant. Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Ragorol mewn Addysg yn rhoi cyfle ac amser i’r cyfranogwyr archwilio eu harddull arwain eu hunain mewn fframwaith ymchwilgar ond anfeirniadol ac yn annog mwy o gydweithio. Mae’r rhaglen wedi denu cyfranogwyr o swyddi rheoli canol mewn ysgolion uwchradd yn y gogledd yn bennaf ond mae hefyd wedi cynnwys cyfranogwyr o ysgolion cynradd ac ychydig o gyfranogwyr o ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion.

Fe wnaethon ni gais i’r broses gymeradwyo i roi cyfle i’n rhaglen Arweinyddiaeth Ragorol mewn Addysg dyfu ac ymestyn i holl arweinwyr canol Cymru. Roedd y broses gymeradwyo’n syml iawn a’r cais yn hawdd i’w ddilyn. Mae’r broses wedi’i hegluro’n fanwl ar wefan yr Academi Arweinyddiaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth glir am y dyddiadau cyflwyno. Roedd casglu’r holl dystiolaeth briodol yn waith caled, ond gan fod hon yn broses gymeradwyo genedlaethol roedden ni’n gwybod y byddai’r disgwyliadau’n uchel. Cawsom ddigon o gefnogaeth drwy drafodaeth dda â’r Academi Arweinyddiaeth cyn cyflwyno’r cais, ac roedd y cyfathrebu’n rhagorol gydol y broses.

Mae manteision cymeradwyaeth gan yr Academi Arweinyddiaeth yn cynnwys cydnabyddiaeth genedlaethol i’n gwaith a’r rhaglen. Roedd hi’n bwysig i ni fel canolfan i rannu’r enw da roedden ni wedi’i sefydlu eisoes, a gallu bod yn rhan o ddiwylliant darpariaeth datblygu arweinyddiaeth o ansawdd uchel yng Nghymru. Rydyn ni’n ystyried cyflwyno darpariaeth arall a ddatblygwyd gennym fel rhan o fframwaith OLEVI yn y dyfodol ac yn ystyried yn gwneud cais am y llwybr arloesi.

“Mae cymeradwyaeth yn ffordd wych o gael cydnabyddiaeth am y gwaith caled rydych wedi’i wneud eisoes drwy gynnig darpariaeth datblygu arweinyddiaeth yng Nghymru a chyfle gwych i fod yn rhan o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghymru.”

“Mae’r rhaglen hon wedi fy herio i feddwl am yr elfennau sydd angen i mi eu cynnwys ar gyfer addysgu a dysgu rhagorol. Fe wnes i fwynhau’r sesiynau hyfforddi’n arbennig gan eu bod yn rhoi model arweinyddiaeth effeithiol ac anuniongyrchol i ni; roedd yn ddefnyddiol iawn cael y cyfle i ymarfer yr hyfforddiant ar ein gilydd. Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro’n dda ac yn hyblyg ac yn cynnig her a chymhelliant i chi godi’ch ymarfer o dda i ragorol.”

– Cyfranogwr

Pob Astudiaethau Achos