Ysgol Gynradd Stryd Siôr

LPL GreenYsgol Gynradd Stryd Siôr

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Stryd Siôr yn ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad ym Mhont-y-pŵl, Torfaen. Mae 42% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac mae 12% yn dod o’r gymuned sipsiwn/teithwyr. Mae’r ysgol yn gymuned dysgu proffesiynol weithredol sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen ddiwygio fel ysgol arloesi dysgu proffesiynol ac fel partner cynghrair Addysg Gychwynnol Athrawon gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae llawer o’r staff yn gwneud gwaith ehangach fel mentoriaid, aseswyr ac wrth gyflwyno rhaglenni dysgu proffesiynol. Mae gan yr ysgol ddiwylliant cadarnhaol a myfyriol sy’n edrych tuag allan ac yn cefnogi gwelliant.

 

Dull a ddilynwyd

Mae gan lawer o blant linell sylfaen isel wrth gychwyn yn yr ysgol, ac yn aml nid oes ganddynt y sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu sy’n sylfaen i ddysgu. Mae blynyddoedd o ganolbwyntio ar addysgu ac ymyriadau wedi’u targedu wedi methu mynd i’r afael â hyn yn llwyddiannus. Penderfynwyd bod angen dull gweithredu gwahanol, un a fyddai’n gwella ymgysylltiad a galluogedd disgyblion ac yn meithrin agweddau cadarnhaol tuag at ddysgu.

Er gwaethaf y defnydd cyson o ddulliau confensiynol o gefnogi cynnydd disgyblion, roedd tangyflawni parhaus lleiafrif sylweddol o ddisgyblion yn achos pryder o hyd. Dangosodd proses hunanwerthuso fod profiadau ar gyfer disgyblion ifanc yn cyd-fynd ag ymarfer y Cyfnod Sylfaen, ond bod angen ymgysylltu’n well â disgyblion er mwyn ennyn eu diddordeb.

Ymwelodd dau aelod staff (Arweinydd y Blynyddoedd Cynnar a’r Dirprwy Bennaeth) yn unigol â lleoliad Blynyddoedd Cynnar hynod effeithiol yn Lloegr (Wingate) i ymchwilio i ddull dysgu drwy brofiad. Yn dilyn hyn, cyflwynwyd newidiadau yn y dosbarth Meithrin i newid y cydbwysedd rhwng dysgu dan arweiniad oedolion a dysgu a ysgogir gan blant. Addaswyd ymarfer dyddiol, gan gynnwys arferion syml, rhyngweithio rhwng plant ac oedolion a threfnu’r amgylchedd dysgu er mwyn rhoi mwy o gyfle i ddisgyblion arwain eu dysgu eu hunain. Esblygodd y newidiadau hyn ar sail treialu a myfyrio gan ddefnyddio syniadau a oedd wedi deillio o waith ymchwil unigol a thrafodaeth gydweithredol. Yn 2019, nododd Estyn fod ‘disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn yn ystod eu hamser yn y Feithrinfa’.

Yn 2020, cafodd yr hyn a oedd yn dod i’r amlwg fel dull dysgu seiliedig ar chwarae ei ‘gyflwyno’ i’r ddau ddosbarth Derbyn. Fe wnaeth hyn gryfhau’r cydweithio rhwng tîm y Blynyddoedd Cynnar, gyda staff yn gweithio’n hyblyg rhwng y dosbarth Meithrin a’r dosbarth Derbyn i ddatblygu dulliau cyffredin a blaengar. Roedd y pwyslais cryf ar les a galluogedd a oedd yn cael ei ymwreiddio’n helpu i gefnogi disgyblion i bontio’n effeithiol rhwng yr ysgol a’r cartref yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud ac ailagor.

Cafwyd cydweithrediad ffurfiol rhwng timau’r Blynyddoedd Cynnar a Chyfnod Sylfaen 1 yn ystod tymor yr haf 2021 i ymestyn yr ymarfer hwn i’r Cyfnod Sylfaen. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau pontio, wrth i gynorthwywyr addysgu ac athrawon gydweithio i rannu gwybodaeth am ddisgyblion cyn iddynt symud, gan ddatblygu ymwybyddiaeth o sut mae’r amgylchedd dysgu a rôl oedolion wedi newid i gefnogi dull dysgu sy’n fwy seiliedig ar chwarae. Arweiniodd y cydweithio at ddatblygu addysgeg wahanol iawn ym Mlwyddyn 1, gan gynnwys cyfnodau estynedig o ‘chwarae’ annibynnol bob dydd ochr yn ochr â chyfnodau byr o weithgarwch llythrennedd/rhifedd mwy traddodiadol. Mae’r gweithgarwch mwy traddodiadol wedi’i newid hefyd er mwyn cynnal diddordeb ac ymgysylltiad disgyblion, gan sicrhau bod plant yn gallu gwneud dewis ac yn parhau’n gyfrifol am eu dysgu i raddau helaeth.

George Street Primary

Mae’r holl newidiadau hyn yn seiliedig ar weithgarwch dysgu proffesiynol unigol a chyffredin aelodau’r tîm. Mae hyn wedi cynnwys treialu, trafod a myfyrio ar syniadau hyrwyddwyr gweithredol dulliau tebyg, gan gynnwys Anna Ephgrave, Greg Bottrill, Alistair Bryce-Clegg. O ganlyniad i ddarllen llyfrau, rhannu gweminarau, erthyglau cyfnodolion a myfyrio gyda’i gilydd ar effaith dulliau newydd, mae staff wedi dod yn fwyfwy gwybodus am sut mae plant yn datblygu, a’r amodau sydd eu hangen arnynt i ffynnu. Mae’r strwythur tîm cydlynus wedi cynorthwyo’r broses gydweithio trwy ddarparu cyfleoedd pwysig i staff gydweithio er mwyn datblygu a gwerthuso ymarfer. Mae hyn yn sicrhau bod staff ar bob lefel yn cyfrannu mewn ffordd bwrpasol at ddatblygu ymarfer, a bod timau’n cael eu grymuso i arloesi ac arbrofi gyda dulliau gweithio newydd. Mae arweinwyr tîm a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn adolygu newidiadau’n rheolaidd mewn cyfarfodydd ar y cyd sy’n hyrwyddo trafodaeth feddylgar am gynnydd a heriau, a’r manteision neu’r anfanteision i ddysgu a phrofiad disgyblion. Mae’r arweinwyr yn gweithio’n dda gyda’i gilydd i sicrhau bod dysgu cydweithredol yn sylfaen i newidiadau mewn ymarfer, bod newidiadau’n cyd-fynd ag anghenion gwella a bod adnoddau’n cefnogi’r datblygiadau hyn.

Mae arweinwyr yn gweithio’n strategol i sicrhau cysondeb rhwng prosiectau gwahanol fel bod dysgu proffesiynol sy’n deillio o weithgareddau amrywiol yn cynorthwyo pawb. Er enghraifft, mae’r hyn a ddysgwyd o waith i wella lles disgyblion fel rhan o’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol wedi’i ddefnyddio i wella dealltwriaeth o alluogedd a datblygu dulliau o asesu ymgysylltiad.

Yn 2021, roedd cyfranogiad arweinwyr mewn rhaglen arweinyddiaeth hyblyg wedi arwain at gyflwyno set newydd o adnoddau a dulliau cyffredin sy’n helpu timau i wella ffocws eu gwaith cydweithredol.

Yn gyffredinol, mae’r newidiadau hyn yn arwain at ail-lunio ein meddylfryd sefydliadol, gan gefnu ar ddull sy’n mesur cynnydd ar sail disgwyliadau sefydlog a symud tuag at ymarfer sy’n meithrin agweddau cadarnhaol at ddysgu yn yr hirdymor.

Mae HMS yn 2021/22 yn hwyluso gweithgaredd dysgu proffesiynol ysgol gyfan i ddatblygu dysgu proffesiynol cyfredol a meithrin addysgeg sy’n cefnogi dyheadau’r Cwricwlwm i Gymru. Mae angen ailddiffinio ein gweledigaeth i gyflawni’r nod hwn, gan ganolbwyntio’n bennaf ar alluogedd fel cyfrwng datblygiad personol. Mae’r holl staff, disgyblion a rhanddeiliaid ehangach yn cyfrannu safbwyntiau at y weledigaeth newydd hon sy’n cael ei llunio wrth i’n hymarfer esblygu.

Mae natur gydweithredol y gweithgaredd hwn yn golygu nad yw’n llinellol; mewn rhai achosion, fel gyda phlant ifanc, mae’r gweithgaredd wedi’i gynllunio, ond mae’n ymateb i’r sefyllfa ar y pryd ac yn gofyn am agwedd ‘rhoi cynnig arni’ yn unig, gan gydnabod ar adegau bod dysgu yn digwydd ar hap weithiau. Ceir cydbwysedd rhwng yr arbrofion hyn a chyfleoedd rheolaidd i ailystyried, myfyrio a gwerthuso cyn symud ymlaen eto. Yn anochel, mae hyn yn golygu gwneud pethau’n ‘anghywir’ ar adegau, ond mae’r elfen hon yn cael ei gwrthbwyso gan y cynnydd yn lefelau hyder staff i fod yn ymarferwyr sy’n gwneud dewisiadau am sut rydym yn gweithio gyda phlant yn ein gofal. Datblygu’r diwylliant hwn yw prif nod gweithgarwch, gan y bydd yn cefnogi ac yn ysgogi ein datblygiad yn y dyfodol.

Pob Astudiaethau Achos