Skip to main content
English | Cymraeg
Rhaglen Addysgeg Effeithiol (CLEAR)

Teitl y ddarpariaeth arloesi: Rhaglen Addysgeg Effeithiol (CLEAR)

Dyddiad y ddarpariaeth arloesi: Hydref 2019

Manylion cyfredol y sefydliad: Hayley Blackwell, Ysgol Eirias – Blackwellh5@hwbcymru.net

Fe wnaethon ni gais am grant llwybr arloesi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ym mis Mehefin 2019 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu Rhaglen Addysgeg Effeithiol 2 ddiwrnod. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar egwyddorion CLEAR (Her (Challenge), Dysgu (Learning), Ymgysylltu (Engage), Asesu (Assessment), Myfyrio (Reflection)) ac yn cynnwys modiwlau sy’n gysylltiedig â’r 12 egwyddor addysgegol ac yn cefnogi agweddau ar y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’r rhaglen wedi’i hwyluso’n dda ac yn gweithio ar sail modelu ymarfer sy’n cynnwys prosiect ymchwil gweithredol bychan. Mae’r Academi Arweinyddiaeth wedi’n cefnogi ni i gynnwys elfennau mwy cyfredol fel Ysgolion fel Sefydliadau Dysgu a’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a oedd yn gwneud y rhaglen yn fwy pwrpasol i Gymru. Cynhaliwyd y rhaglen yn hydref 2019 dros 2 ddiwrnod ac roedd yn cynnwys 12 o fynychwyr. Roedd yr adborth yn galonogol iawn ac yn awgrymu y dylid cynnal y rhaglen yn rheolaidd ar draws pob cam i athrawon sy’n dymuno gwella eu haddysgeg.

Roedd gwneud cais yn broses syml a thrylwyr iawn a oedd yn rhoi sicrwydd i rywun. Dechreuodd y broses gyda chwblhau’r ffurflen gais a chasglu unrhyw ddeunydd neu ddata ategol a daeth i ben gyda phanel cyfweld. Ro’n i’n teimlo bod y broses yn gymharol hawdd gan fod y data wedi’i goladu fel rhan o waith ymchwil gweithredol ro’n i’n ei wneud. Roedd y ffurflen gais yn drylwyr ond angenrheidiol i sicrhau bod y rhaglen yn iawn ar gyfer y grant ac roedd y cyfweliad yn ddefnyddiol iawn o ran sut y gallem ddatblygu’r ddarpariaeth ymhellach i ddiwallu anghenion cyfarwyddebau Llywodraeth Cymru.

Rydyn ni nawr wrthi’n gwneud cais am gymeradwyaeth. Mae’n bwysig iawn i ni fod ein rhaglen yn cael ei chefnogi gan sefydliad fel yr Academi Arweinyddiaeth a’n bod ni’n cario’r statws hwnnw. Rydyn ni am barhau i ddarparu’r rhaglen ledled y Gogledd ac yn teimlo y bydd y gymeradwyaeth yn cefnogi’n hyrwyddiad a’n datblygiad pellach.

“Mae cael ein cydnabod ar y lefel hon yn ganmoliaeth wirioneddol i unrhyw raglen. Mae’n golygu ein bod ni’n cael ein cydnabod yng Nghymru fel rhaglen o safon ac yn cynnig sicrwydd i fynychwyr bod ansawdd y rhaglen wedi’i chydnabod.”

“Roedd rhaglen CLEAR yn adnodd amhrisiadwy sy’n fy helpu i ddatblygu fy arferion addysgu yn barhaus. Roedd yn fuddiol iawn cael siarad ag athrawon oedd ag amrywiaeth o brofiad, ar draws ystod o bynciau, ac yn arbenigo mewn gwahanol Gyfnodau Allweddol. Ro’n i’n gallu rhoi adborth ar yr arferion a oedd yn cael eu hannog gan arweinwyr y cwrs sydd wedi bod o fudd i fy nghyfadran. Rwy’n cyfeirio’n aml at yr adnoddau a gawsom yn ystod y cwrs hwn ac yn teimlo bod y rhain yn sicrhau bod fy ngwersi’n darparu’r lefel gywir o her, ymgysylltu, asesu a myfyrio i roi’r profiad dysgu gorau i’m myfyrwyr. Rwy’n credu y byddai’r cwrs hwn yn cryfhau arferion addysgu unrhyw un.” – Cyfranogwr

Pob Astudiaethau Achos