Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin

LPL GreenYsgol Gyfun Dŵr-y-Felin

Wedi’i gryfhau gan gydweithio proffesiynol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg, cyfrwng Saesneg, i ddisgyblion 11-16 oed yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin. Mae ganddi 1,131 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Daw’r disgyblion o ardal sy’n cynnwys Castell-nedd a’r cyffiniau.

 

Dull a ddilynwyd

Roedd arweinwyr angen creu’r amodau i gydweithwyr weithio gyda’i gilydd a rhannu syniadau’n agored. Fe wnaeth holl aelodau’r staff gymryd rhan mewn Cymuned Dysgu Proffesiynol (PLC) i ganolbwyntio ar ddysgu o bell anghydamserol yn ystod tymor yr haf. Y nod oedd cynyddu hyder a dealltwriaeth staff i ddarparu’r dysgu gorau o bell i ddisgyblion.

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 gwahoddwyd holl aelodau’r staff i fod yn rhan o Gymuned Dysgu Proffesiynol o bell (PLC). Hefyd, penderfynwyd mai’r model ymchwil weithredu, gan ddefnyddio’r profiadau a ddysgwyd drwy’r Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol (NPEP), oedd y dull gorau. Fe wnaeth holl aelodau’r staff gymryd rhan mewn arolwg cychwynnol i nodi lefel dealltwriaeth broffesiynol o ddysgu o bell. Hefyd, cynhaliwyd cyfweliadau un i un gyda Phenaethiaid Adran gan aelod o’r Uwch Dîm Arwain (SLT) a’r Arweinydd Ymholi i nodi prif bethau i’r Cymunedau Dysgu Proffesiynol ganolbwyntio arnynt. Nodwyd naw maes ffocws i gyd (rhestrir isod). Cyflwynwyd y canfyddiadau i aelodau’r Gymuned Dysgu Proffesiynol a gwahoddwyd yr holl staff i ddewis is-grŵp ffocws i ymuno ag ef.

Ffocws 1 – Map Gwers Dysgu o Bell

  • Beth sy’n gwneud gwers dysgu o bell ragorol?

Cydweithio i ddatblygu map gwers o bell manwl gan ddefnyddio’r templed 12 cam a ddarparwyd.

Ffocws 2 – Arloesi gydag Adnoddau

  • Pennu arferion ar gyfer dysgu
  • Ysgogi dysgu blaenorol
  • Gweithgareddau bachyn
  • Cymhwyso cyfarwyddyd
  • Modelau a sgaffaldiau
  • Cyflwyno cysyniadau newydd

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio adnoddau arloesol creadigol sy’n cefnogi addysgu a dysgu rhagorol mewn amgylchedd dysgu o bell. Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 3 – Pecyn Cymorth

  • Fideo/Sain – Canllawiau
  • Gwŷdd/Delweddwyr

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio canllaw ar sut i greu adnodd clyweledol effeithiol ar gyfer disgyblion. Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 4 – Pecyn Cymorth

  • Microsoft Stream
  • Flipgrid

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio canllaw ar sut i ddefnyddio Microsoft Teams i gynnal fideos (wedi’u recordio a darllediadau byw) Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 5 – Pecyn Cymorth

  • Dylunio PowerPoint effeithiol ar gyfer dysgu o bell
  • Integreiddio canllawiau fideo/sain
  • OneNote

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio canllaw ar sut i greu cyflwyniadau PowerPoint arloesol sy’n gweddu i anghenion dysgwyr mewn amgylchedd dysgu o bell. Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 6 – Arloesi gydag Adnoddau

  • Annibyniaeth
  • Trefn
  • Ymarfer disgyblion

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio canllaw ac adnodd, y gall athrawon eu defnyddio i helpu disgyblion i adolygu a datblygu gwaith mewn amgylchedd dysgu o bell. Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 7 – Adolygu Dealltwriaeth

  • Creu cyfleoedd ar gyfer Asesu ar gyfer Dysgu mewn aseiniadau

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio canllaw ar sut i greu Microsoft Form er mwyn monitro cynnydd disgyblion a rhoi adborth. Bydd hyn yn rhan o’r pecyn adnoddau dysgu o bell.

Ffocws 8 – Llais Disgyblion

  • Casglu gwybodaeth am ddarpariaeth dysgu o bell o safbwynt disgyblion a myfyrio ar hynny

Cydweithio â’ch grŵp i gyd-lunio a gwerthuso’r ddarpariaeth dysgu o bell o safbwynt disgybl a chreu canllawiau i ddisgyblion ar ddefnyddio’r ddarpariaeth honno.

 Ffocws 9 – Diogelu mewn amgylchedd dysgu o bell

  • Canllaw Ffeithluniau

Y Gymuned Dysgu Proffesiynol a’r Uwch Dîm Arwain i gydweithio ar greu canllawiau cyfeirio/ffeithluniau hawdd ei ddefnyddio i staff ar ddiogelu mewn amgylchedd dysgu o bell.

Fe wnaeth pob cyfranogwr wneud gwaith darllen ehangach yn eu maes ffocws, mynychu cyfarfodydd cynnydd o fewn eu his-gymuned dysgu proffesiynol a dechrau datblygu adnoddau. Hanner ffordd drwy’r broses, cynhaliwyd arolwg staff pellach i asesu’r lefel bresennol o effaith ar ddealltwriaeth a chydweithrediad proffesiynol. Tua’r diwedd rhannwyd y canfyddiadau, y wybodaeth a’r adnoddau drwy gyfres o bum gweithdy dysgu proffesiynol rhithwir dan arweiniad arweinwyr yr is-gymunedau dysgu proffesiynol. Cam ola’r broses oedd cipio data wedi’r broses, HMS Dysgu Cyfunol ym mis Gorffennaf a lansio gwefan Dysgu Cyfunol ac Ymholi Proffesiynol Dŵr-y-Felin.

Effaith lansio’r gymuned dysgu proffesiynol o bell oedd bod 39 aelod o staff ar draws pob lefel o brofiad proffesiynol wedi cofrestru gyda’r gymuned dysgu proffesiynol, a chynhaliwyd y nifer hwn drwyddi draw. Roedd hyn yn golygu o leiaf 16 awr o ddysgu proffesiynol strwythuredig a chydweithio. Effaith y dysgu proffesiynol oedd:

  • Ar ôl yr ymyriad, roedd 96% o’r staff yn teimlo eu bod yn hyderus i weithredu amgylchedd dysgu o bell ar gyfer eu disgyblion, sef cynnydd o 53% o’r arolwg cychwynnol.
  • Ar ôl yr ymyriad, roedd 97% o’r staff a gymerodd ran yn teimlo bod y gymuned dysgu proffesiynol o bell wedi cael effaith gymedrol neu uchel ar eu datblygiad proffesiynol dysgu o bell.
  • Ar ôl yr ymyriad, roedd gan 95.3% o staff ddealltwriaeth gymwys neu gymhleth o Microsoft Teams o’i gymharu â 23.8% cyn yr ymyriad.
  • Fe wnaeth dealltwriaeth staff o’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i ddarparu dysgu o bell gynyddu’n aruthrol yn ystod cyfnod yr ymyriad.
Pob Astudiaethau Achos