Skip to main content
English | Cymraeg

LPL GreenYsgol Gynradd Tregatwg

Wedi’i adeiladu ar farn feirniadol o ymchwil, ymholiad proffesiynol ac arbenigedd allanol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Tregatwg yn ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad wedi’i lleoli yn y Barri ym Mro Morgannwg. Mae 490 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6. Mae gan tua 34.4% o blant hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn lle arbennig i blant ddod i ddysgu bob dydd. Mae’r ysgol yn gwerthfawrogi pob plentyn, ac mae’n awyddus i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael addysg ragorol ac yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel hefyd. Nod Ysgol Gynradd Tregatwg yw darparu cwricwlwm diddorol, arloesol, yr 21ain ganrif sy’n cael ei arwain gan ddiddordebau’r plant ac sy’n datblygu’r sgiliau a’r profiadau sydd eu hangen arnynt i fod yn ddysgwyr gydol oes hyderus. Mae Tregatwg yn ysgol arloesi sydd wedi ymrwymo i wireddu uchelgais gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, a gyflwynir yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r pedwar diben wrth wraidd yr holl ddysgu yn Ysgol Tregatwg, a thrwy bartneriaeth agos â rhieni, mae’r ysgol yn ceisio meithrin cariad at ddysgu a sicrhau bod pob plentyn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arno i ffynnu mewn bywyd. ‘Learning and Growing Together, being our best forever!’ yw arwyddair Ysgol Tregatwg, ac mae’n seiliedig ar bwyslais clir ar arferion a phriodoleddau dysgu cadarn.

Cadoxton Primary School

Dull a ddilynwyd

Mae dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar waith ymchwil, ymholi ac arbenigedd allanol yn ennyn diddordeb, yn cael ei arwain gan anghenion, yn bwrpasol ac yn effeithio ar staff, dysgwyr, teuluoedd a’r gymuned. Mae’n rhan annatod o’r Genhadaeth Genedlaethol – yn enwedig y Safonau Proffesiynol yng Nghymru, Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu a’r Dull Cenedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol.

Ymchwil:

Mae ein sesiynau dysgu proffesiynol yn seiliedig ar ymchwil – yn aml, maent yn cael eu darparu trwy ddefnyddio addysgeg dysgu cydweithredol – mae’n cael effaith gadarnhaol ar ddysgu yn ein lleoliad ac yn modelu ymarfer rhagorol. Hefyd, mae ein sesiynau dysgu proffesiynol yn dilyn erthygl darllen / ymchwil o flaen llaw sy’n cael ei hanfon allan cyn y sesiynau. Gall yr erthyglau hyn fod yn destunau allweddol rydym am ennyn diddordeb y staff ynddynt, neu’n erthyglau mwy personol lle rydym yn rhoi ‘dewislen’ i staff cyn cyflwyno sesiynau i ddatblygu eu dealltwriaeth. Hefyd, rydym yn defnyddio gweminarau, podlediadau a blogiau proffesiynol amrywiol yn y sesiynau hyn.

Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud adeg y Nadolig a’r haf hefyd gan ein bod yn derbyn llyfrau allweddol, sydd bob amser yn  cysylltu â’n blaenoriaethau ar gyfer datblygu’r ysgol a’n twf proffesiynol.

Ymholiad:

Mae diwylliant ymholi yn treiddio drwy bopeth a wnawn yn Ysgol Gynradd Tregatwg – dysgu proffesiynol yw ein cyfrwng i symud ymlaen. Mae dysgu proffesiynol trwy ymholi yn bwrpasol, ac mae’n gysylltiedig â blaenoriaethau ein Cynllun Datblygu Ysgol a’r hyn sy’n digwydd yn ein hystafelloedd dosbarth trwy ddefnyddio model ymholi.

Y modelau ymholi mwyaf llwyddiannus ar gyfer ein staff yw model Kath Murdoch, gan fod ein staff mor gyfarwydd ag ef fel athrawon ymholi. Hefyd, mae’r Sbiralau Ymholi yn syml ac yn effeithlon o ran amser.

Mae ein dull dysgu proffesiynol trwy ymholi yn esblygu ac yn newid yn gyson. Mewn rhai achosion, mae staff yn dilyn meysydd ymholi unigol sy’n berthnasol i’w hymarfer eu hunain, ond rydym yn defnyddio ymholiadau cydweithredol mewn camau cynnydd hefyd, sy’n gysylltiedig â’n cynllun datblygu’r ysgol.

Yn y pen draw, mae ymholi yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn ymwneud ag ymchwil bywyd go iawn, sy’n ganolog i’n cynnig dysgu proffesiynol. Rydym yn neilltuo amser a lle penodol ar gyfer y gwaith, ac mae hyn yn effeithio ar ymarfer bob dydd ac ar dwf proffesiynol ein tîm.

Arbenigedd Allanol:

Mae Ysgol Tregatwg wedi gweithio gyda Phartneriaeth Ddysgu Cymru (TLP) ers dros ddeng mlynedd. Mae TLP yn cefnogi’r ysgol trwy ddarparu her ar gyfer y tîm arweinyddiaeth, wedi’i llywio gan ddealltwriaeth o ddatblygiadau polisi addysg Cymru, syniadau addysgol ehangach a’r ysgol fel sefydliad. Hefyd, mae’r TLP yn darparu rhaglenni dysgu proffesiynol (ochr yn ochr ag arweinwyr yr ysgol yn aml) sy’n cynnwys hyfforddiant a chymorth dilynol ar gyfer staff yr ysgol.

Mae Ysgol Tregatwg wedi gweithio gyda Perform and Grow (P&G) hefyd, ymgynghoriaeth datblygu sefydliadol. Mae P&G yn cefnogi’r ysgol, yn bennaf trwy ddatblygu gallu ymarferwyr i arwain eraill.

Mae arweinwyr yn ein hysgol yn credu yng ngwerth her adeiladol, ‘ffrind beirniadol’ o’r tu allan i’r ysgol ‘i fwrw golwg feirniadol’ dros yr hyn y mae’r ysgol yn ei wneud a ‘gofyn cwestiynau anodd iawn’.

Hefyd, mae ein cynnig dysgu proffesiynol yn manteisio ar arbenigedd Ysgolion sy’n Deall Trawma a’r Gwasanaeth Ymgysylltu sy’n arwain sesiynau’n rheolaidd gyda’n cyfnodau a’n grwpiau blwyddyn unigol. Hefyd, rydym yn defnyddio adnoddau Consortiwm Canolbarth y De, yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a nifer o weithwyr proffesiynol eraill yn y sector addysg.

Rydym yn parhau i weithio gyda darparwyr allanol oherwydd arbenigedd y sefydliadau hyn, eu dealltwriaeth fanwl o’n hysgol, a lefel yr ymddiriedaeth sydd wedi’i sefydlu dros nifer o flynyddoedd.

Rydym o’r farn fod dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil, ymholi proffesiynol ac arbenigedd allanol yn gyfrwng i wella’r ysgol, fel y dangosir gan y canlynol:

  • Mae Sgyrsiau Datblygiad Proffesiynol yn amlygu llwyddiant ein hymagwedd at ddysgu proffesiynol.
  • Mae staff Ysgol Tregatwg yn hapus, yn frwdfrydig, ac wedi’u grymuso, ac mae eu cariad at ddysgu, sydd wedi’i wreiddio yn yr ysgol, yn effeithio ar brofiadau dysgu ein plant bob dydd.
  • Mae diwylliant wedi’i sefydlu – derbynnir na fydd y broses o ddatblygu Ysgol Tregatwg ‘byth yn dod i ben’ a bod dysgu proffesiynol yn helpu i feithrin gallu yn yr ysgol.
  • Mae’r cymorth a ddarperir gan ddarparwyr allanol wedi’i ‘gyd-greu’ gyda’r nod o adael dysgu yn nwylo’r ysgol.
  • Cyflwyno safonau dysgu ac addysgu uchel.
Pob Astudiaethau Achos