Skip to main content
English | Cymraeg
Ysgol Gynradd Albany

LPL GreenYsgol Gynradd Albany

Yn bwrpasol ar gyfer ymarferwyr ac yn cael ei lywio ganddynt
Wedi’i adeiladu ar farn feirniadol o ymchwil, ymholiad proffesiynol ac arbenigedd allanol

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Albany yn ysgol fywiog yng nghanol y ddinas sydd wedi’i lleoli ar stryd siopa brysur. Mae 440 o ddisgyblion yn yr ysgol o’r Dosbarth Meithrin i Flwyddyn 6. Mae tua 70% o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, ac ar hyn o bryd mae 45 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yng nghymuned yr ysgol.

 

Dull gweithredu

Mae’r gwaith dysgu proffesiynol sydd wedi’i wneud gan Ysgol Gynradd Albany yn cynnwys dau o’r nodweddion – Dysgu sy’n berthnasol i ymarferwyr ac yn cael ei ysgogi ganddynt, a dysgu sy’n seiliedig ar adolygiad beirniadol o ymchwil, ymholi proffesiynol ac arbenigedd allanol. Oherwydd y Safonau Addysgu Proffesiynol, nododd Ysgol Gynradd Albany fod angen defnyddio gwaith ymchwil ac ymholi i lywio Dysgu Proffesiynol. Roedd yn bwysig i’r ysgol bod mentora yn rhan allweddol o’r gwaith a bod cysylltiad agos rhwng dysgu proffesiynol ac anghenion athrawon unigol.

Dechreuodd y gwaith Dysgu Proffesiynol hwn yn 2018. Roedd y Pennaeth wedi cymryd rhan mewn prosiect Erasmus Rhyngwladol a oedd yn cynnwys ymweliadau â’r Ffindir a’r Eidal. Un o brif elfennau’r prosiect hwn oedd ystyried yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yn yr ysgol. Amlygodd tystiolaeth o’r ymweliadau hyn yr angen i ddatblygu ymddiriedaeth staff, darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon, a chynorthwyo staff yn hytrach na chyfarwyddo popeth. Roedd sawl agwedd ar ddysgu proffesiynol yn cael ei harwain gan eraill a oedd yn dweud wrth athrawon beth i’w wneud yn hytrach nag ymddiried yn eu proffesiynoldeb a’u dealltwriaeth. Arweiniodd hyn at ofyn a yw’r dull hwn yn briodol?

Yn ogystal, roedd y Safonau Addysgu Proffesiynol yn cynnwys elfen ‘canfyddiadau darllen ac ymchwil ehangach’, ac roedd y Pennaeth a’r Dirprwy Bennaeth yn teimlo bod angen cymorth i ddatblygu’r maes hwn yn effeithiol. Roedd Ysgol Gynradd Albany yn gwybod bod yr ysgol yn gallu cynnal deialog broffesiynol, ond roedd yn awyddus i wella strwythur neu ffocws y ddeialog, a’i datblygu’n sgwrs fentora gan wella ansawdd deialog broffesiynol ledled yr ysgol.

Gan fod yr ysgol yn canolbwyntio mwy ar ymchwil mewn Safonau Addysgu Proffesiynol, roedd angen ystyried:

  • Pa mor hawdd fyddai’r gwaith hwn ar gyfer athrawon dosbarth llawn amser?
  • Ble mae athrawon yn gallu cael gafael ar lenyddiaeth a chyfnodolion priodol?

Fel ysgol, gofynnwyd i Brifysgol Caerdydd archwilio’r posibilrwydd o weithio gyda Sefydliad Addysg Uwch i gefnogi a datblygu’r syniadau hyn.

Neilltuwyd amser sylweddol gydol y flwyddyn i wneud y gwaith hwn – 2 ddiwrnod a 3 hanner diwrnod. Roedd hyn yn bwysig iawn i lwyddiant y gwaith dysgu proffesiynol. Roedd staff yn cymryd rhan mewn trafodaethau grŵp. Nodwyd materion a heriau penodol ac unigol i’w harchwilio. Dewisodd y staff bwnc a oedd yn berthnasol iddynt – roedd hyn yn rhan allweddol o’r llwyddiant gan fod yr athro unigol yn awyddus iawn i archwilio a datblygu syniad. Llwyddodd y broses hon i ddatblygu hyder staff fel mentoriaid – yn gwrando, yn cwestiynu ac yn trafod. Y nod oedd osgoi atebion cyflym a cheisio dod o hyd i atebion i bobl.

Cychwynnodd staff unigol ar eu taith dysgu proffesiynol, a rhannwyd achosion unigol gydag arweinwyr prosiectau. Rhannwyd erthyglau a chyfnodolion priodol er mwyn datblygu syniadau a rhannu safbwyntiau gwahanol ar yr achos dan sylw. Datblygwyd trafodaethau mentora rheolaidd mewn grwpiau i wneud gwaith ymchwil a darllen, ac ar gyfer ymholi proffesiynol. Mae gwaith dysgu proffesiynol yr ysgol yn seiliedig ar y model hwn, ac mae’n cynnwys sgyrsiau a chwestiynau mentora i archwilio a dyfnhau dealltwriaeth.

Cafodd y gwaith dysgu proffesiynol ei wneud yn ystod y flwyddyn academaidd lawn, ac roedd staff yn cyflwyno poster o’u taith er mwyn amlinellu eu hachos unigol i gydweithwyr mewn sesiwn HMS. Roedd y sesiwn hon yn hynod effeithiol ac roedd yn galluogi staff i fyfyrio’n llawn ar eu gwaith dysgu proffesiynol.

Albany Primary School

“Rydym wedi dysgu nad yw popeth yn gweithio, ond does dim methiant. Er nad yw’r her gychwynnol wedi’i goresgyn o bosibl, mae dealltwriaeth a phrofiadau staff yn parhau i gael effaith gadarnhaol trwy ‘ddysgu o’r broses’”.

Mae holl agwedd Ysgol Gynradd Albany at wella’r ysgol a dysgu proffesiynol wedi newid. Defnyddir deialog, myfyrio a chwestiynu i archwilio syniadau. Defnyddir llenyddiaeth briodol i archwilio safbwyntiau a allai gefnogi neu herio syniadau. Mae staff yn cymryd rhan lawn yn y broses ac yn cael eu gwerthfawrogi, ac mae sgyrsiau’n agored ac yn onest. O ganlyniad, mae’r gwaith dysgu proffesiynol wedi bod yn fanylach, ac mae’n creu newidiadau i ymarfer a fydd yn para ac yn effeithio ar garfanau yn y dyfodol. Yn y gorffennol, mae’n bosibl bod dysgu proffesiynol wedi arwain at atebion cyflym ac arwynebol. Mae cynlluniau’r dyfodol yn cynnwys cysylltu’r Broses Dysgu Proffesiynol â gwaith i ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru a Datblygiad Proffesiynol.

Pob Astudiaethau Achos