Dyma gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru gyda chymaint o ddatblygiadau newydd a chyfle i ail-ystyried ein blaenoriaethau. Mae’r cwricwlwm newydd, y safonau proffesiynol newydd, y datblygiadau a’r disgwyliadau newydd o ran Addysg Gychwynnol Athrawon a’r egwyddor o Ysgolion fel Sefydliadau sy’n Dysgu i gyd yn ddatblygiadau cyffrous a chytûn  ym myd addysg yng Nghymru. Mae hi hefyd yn braf ein bod ni fel ymarferwyr wedi ein cynnwys bob cam o’r daith yn y datblygu hwn ac wedi bod yn rhan greiddiol o gyd-greu’r dyfodol addysgol yng Nghymru.

Yn rhan ganolog o’r diwygio hwn hefyd mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, gyda’i chenhadaeth o “Ysbrydoli arweinwyr: Cyfoethogi Bywydau” a’r nod o sicrhau eglurder a chydlyniad i arweinyddiaeth addysgol yng Nghymru.

Bu’n fraint i mi eleni i fod yn un o’r deuddeg cydymaith cyntaf ar gyfer y  AGAA. Un rhan bwysig o  waith y cymdeithion yw ymateb i gomisiwn gan Lywodraeth Cymru dan y teitl:

“Sut gall arweinwyr alluogi cyfleoedd dysgu proffesiynol o safon uchel sy’n gwella lles ac yn cyflawni canlyniadau gwell i bawb?”

Mae sawl agwedd i’r comisiwn hwn, ond un rhan ohono yw ymchwilio i systemau addysg rhyngwladol llwyddiannus gan gynnwys ymweliad ag un o’r gwledydd hynny.

Yn ddiweddar, fel rhan o’r comisiwn, bûm yn ddigon ffodus, gyda 4 phennaeth arall, i ymweld â’r Ffindir. Dyma brofiad gwerthfawr iawn mewn gwlad sydd wedi serennu o ran ei pherfformiad PISA, er bod peth pryder fod y perfformiad hwn yn dirywio, yn arbennig felly o ran y disgyblion ar frig yr ystod gallu o fewn eu system.

Mae peryg mewn gwirioni’n ormodol ar ymweliad tramor,  a chredu yn yr hen wireb – man gwyn, man draw. Ond rhaid cofio fod pob system addysgol yn ffrwyth ei chymdeithas, ei thraddodiadau a’i diwylliant ei hun, ac ni ellir trawsblannu agweddau unigol, annibynnol o system lwyddiannus estron heb ystyried y cyd-destun ehangach. Yn yr un modd, wrth adael ein cynefin am gyfnod byr, braf yw sylweddoli ein bod yn gweithio mewn galwedigaeth anrhydeddus a hynny mewn gwlad eangfrydig sy’n awyddus i ddatblygu a diwygio ymhellach er lles plant a phobl ifanc Cymru.  Braf hefyd yw sylweddoli nad yw’r atebion i gyd dramor, a bod sawl agwedd o fewn ein system ni yn gadarnhaol iawn, ac y dylem glochdar ychydig am hynny.

Felly wrth ymweld ag ysgolion a sefydliadau addysgol yn Helsinki ac yn Jyväskylä ni chefais yr atebion i gyd. Yn wir ychydig iawn o atebion parod a gafwyd, ond fe’n prociwyd, a chodwyd sawl cwestiwn allweddol i ni fel arweinwyr addysgol yng Nghymru i’w hystyried:

Sut mae modd adennill parch a balchder o fewn y proffesiwn addysgol yng Nghymru fel ein bod yn denu’r myfyrwyr mwyaf galluog o fewn ein system i ddeisyfu bod yn athrawon?  Cawsom sgwrs â phennaeth a dderbyniodd 250 o ymgeiswyr am swydd addysgu gyffredin!

O ddenu’r goreuon i’r proffesiwn sut y mae modd sicrhau eu bod yn cynnal eu cymhelliant a’u brwdfrydedd ac yn mwynhau gyrfa hir a llwyddiannus o fewn ein system addysg?

Sut mae modd i ni yng Nghymru sicrhau fod yr arian o fewn y system addysg yn cyrraedd ein hysgolion yn effeithiol fel nad yw penaethiaid yn wynebu her flynyddol o godi safonau gydag adnoddau ariannol sy’n edwino?

Sut mae modd i ni yng Nghymru sicrhau fod yr adnoddau o fewn y system yn cael eu defnyddio i wneud gwahaniaeth uniongyrchol i fywyd plant unigol? Mae canlyniadau PISA Ffindir yn awgrymu’n gryf eu bod wedi llwyddo i gau’r bwlch yn llwyddiannus rhwng y gwannaf a’r cryfaf o fewn eu hysgolion. Pan welsom y gwasanaethau cefnogol a oedd ar gael i ysgolion Ffindir mae’n bosib deall hynny. Gwelsom ysgolion canolig eu maint gyda seicolegydd addysg, nyrs ysgol a gweithiwr cymdeithasol yn eu gwasanaethu ymron yn llawn amser.

Sut mae modd i Gymru newid diwylliant addysg gan sicrhau fod cyfrifoldeb proffesiynol yn ein gyrru yn hytrach nag atebolrwydd? Roedd ymddiriedaeth ryfeddol o fewn y system addysgol yn Ffindir – gormod felly efallai – gyda’r arolygaeth wedi ei diddymu yn y 1990au. Roedd diffyg cystadleuaeth yn amlwg rhwng eu sefydliadau,  ac yn iach iawn nid oeddynt  yn gyfarwydd gyda’r sgwrs dragwyddol Brydeinig am “ysgolion llwyddiannus” ac “ysgolion sy’n methu”.

Fe bwysleisiais eisioes na welais yr atebion, ond eto mae rhyw wirionedd clir yn eu hegwyddor waith o gyfrifoldeb nid atebolrwydd. Mae gennym gyfle yng Nghymru heddiw i ail-edrych ar hyn.   Alla’i ond  teimlo ym mêr fy esgyrn y byddai’r system yng Nghymru yn gwella pe bai’r trefniadau atebolrwydd yn peidio craffu ar sefydliadau unigol, ond yn hytrach yn gweithio’n adeiladol a chydweithredol gyda dalgylchoedd neu ardaloedd ehangach. Byddai hyn yn lleihau’r pwysau affwysol o fewn y system gan greu ethos cydweithredol cryf a datblygu’r egwyddor allweddol o gyd-berchnogi ein system addysg.

Fel y dywedais nid yw’r atebion i’n pryderon yn Ffindir nag unrhyw system unigol arall – ond eto ni ellir anwybyddu ambell i neges gan system sy’n amlwg yn gryf ei deilliannau. Wrth ddeilliannau, wrth gwrs, nid wyf yn golygu mesur cyfyng o berfformiad arholiadol yn 16 oed.  Yr hyn a welais i ar y cyfan, ar ymweliad byr, oedd dysgwyr hapus, yn iach eu hagwedd a’u cyrff, yn barchus ac yn cyflawni yn eu haddysg. Rhywsut roedd llai o bwysau ar eu holl system – llai o bwysau ar yr athrawon a’r arweinwyr addysgol, a llai o bwysau ar y dysgwyr eu hunain. Yn 2018 mae hynny’n rhywbeth gwerth ei ystyried, ac fel beiciwr roedd y cannoedd o feiciau y tu allan i’r ysgol yn Jyväskylä yn dangos hefyd fod modd paratoi  dinasyddion y dyfodol ar gyfer ffordd fwy cynaliadwy o fyw. Yn yr un modd ni welais yr un wisg ysgol ffurfiol ond eto fe welais ddysgwyr parchus yn ymlacio wrth ddysgu. Nid fy mod yn awgrymu mai dileu’r wisg ysgol yw’r ateb ychwaith dim ond myfyrio ac ystyried blaenoriaethau.

Diolch Ffindir – ddim am roi’r atebion ar blât i ni – ond am atgoffa pennaeth o Gymru am fraint a chyfrifoldeb ei swydd, ei atgoffa hefyd pa mor ffodus ydym ni yng Nghymru, ond hefyd ei brocio i feddwl o’r newydd am atebion i rai o’n heriau ni! Kiitos Suomi.

Gwyn Tudur, Gydymaith yr Academi a pennaeth Ysgol Tryfan